Main content

Banc Bwyd Clwb Pel-droed Prestatyn

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda’r Nadolig ar y trothwy, faint o glybiau pêl droed yn eich ardal chi sydd yn dangos ysbryd yr 诺yl trwy ymdrechu i sicrhau fod pobol lai ffodus yn cael cefnogaeth dros yr 糯yl?

Un clwb sy’ dangos blaengaredd a menter yn y cyd-destun yma ydi Prestatyn yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae’r clwb wedi cyfuno ac un o’u noddwyr, Disability Resource Centre, i gasglu eitemau bwyd, yn enwedig bwyd Nadoligaidd, ar gyfer y digartref mewn cyd weithrediad ac elusen y bwyd banc lleol (Hope Restored) .

Dechreuwyr y fenter y penwythnos ddiwethaf yn ystod y gêm yn erbyn Llandudno, pan gasglwyd bagiau bwyd oddi wrth gefnogwyr , a bydd cyfle arall i fwy o gefnogwyr a dilynwyr y gêm gyfrannu eto'r penwythnos yma.

Dywedodd Tony O’Reilly, swyddog y cyfryngau Clwb Prestatyn, ei bod yn bwysig fod y clwb yn cydweithio gyda'r gymuned ac yn rhoi rhywbeth yn ôl i wahanol fudiadau lleol, ac mae’r fenter yma yn rhywbeth y gellir ei wneud yn hawdd, wrth wella sefyllfa llawer o bobol anghenus yn y cylch.

Felly os ydych yn bwriadu mynd draw i weld Prestatyn yn chwarae yn erbyn y Derwyddon heno (nos Wener) casglwch ychydig o fwyd a fydd yn si诺r o gyfoethogi bywyd eich cymdogion llai ffodus dros y Nadolig

Oes yna fentrau tebyg yn y byd pêl droed o fewn eich ardal chi?

Byddai’n werth clywed amdanynt.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf