Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Mawrth 16eg-22ain 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Aled Hughes - John Ystumllyn

caethwas - slave
bedyddio - to baptise
campus - excellent
cymeriad poblogaidd - a popular character
yn y cylch - in the area
dirgelwch - mystery
englyn - a form of poetry
carreg fedd - gravestone
anwybodaeth - ignorance
disgynyddion - descendants

Hanes John Ystumllyn ddaeth i Gymru fel caethwas o gwmpas 1746, er does neb yn sicr o'r union ddyddiad. Doedd neb yn sicr chwaith o le daeth John yn wreiddiol. Tybed oedd gan Twm Morus atebion? Buodd o'n trafod hyn efo Aled Hughes bore Llun.

Anorecsia a fi - Mair Elliot

difrifol - serious
gwaed - blood
amhwylder bwyd - eating disorder
mas - allan
dyfodol - future
mo'yn - eisiau

Hanes John Ystumllyn, caethwas oedd yn siarad Cymraeg yn rhugl gan Twm Morus. Stori bersonol Mair Elliot sydd nesa. Mae Mair yn sôn am ei phrofiad o anorecsia mewn rhaglen gafodd ei recordio yn ystod haf 2018.

Rhys Mwyn - Nigel a Neil

Penbedw - Birkenhead
Cilgwri - Wirral
pam lai? - why not?
dychmygu - to imagine
Penarlâg - Hawarden
gwaith coed - woodwork
go lew - quite good

A phob lwc i Mair yn ei brwydr yn erbyn anorecsia ynde? Oeddech chi'n gwybod bod Nigel Crossley o'r grwp Half Man, Half Biscuit yn siarad Cymraeg? Mae Nigel yn dod o Benbedw yng Nghilgwri yn Lloegr. Pam wnaeth o ddysgu Cymraeg felly, a lle ddysgodd o? Cafodd Rhys Mwyn sgwrs gyda Nigel a gyda'i diwtor Cymraeg Neil Wyn Jones nos Lun diwetha.

Dan Yr Wyneb - Martin Johnes

cyfres - series
hanesydd - historian
mae o'n fy nharo i - it stikes me
diwyllio - to civilize
cymryd mantais - to take advantage

Nigel Crossley a'i diwtor Neil Wyn Jones, y ddau o Gilgwri a'r ddau wedi dysgu Cymraeg. Da ynde? Weloch chi'r gyfres Wales: England's Colony? ar 主播大秀 Wales? Yr hanesydd Martin Johnes oedd yn cyflwyno'r gyfres a fo oedd wedi ei hysgrifennu yn ogystal. Dyma i chi Martin yn esbonio wrth Dylan Iorwerth pam ei fod yn meddwl mai Cymru oedd coloni cyntaf Lloegr.

Dei Tomos - J Foss Davies

casglwr caneuon gwerin - a collector of
disgybl disglair - an outstanding pupil
tlodi - poverty
ei radd - his degree
ardal enedigol - native area
ysbrydoledig iawn - very inspiring
yn ôl y sôn - by all accounts
diwylliedig - cultured
hyddysg - well versed
hadau - seeds

Ychydig o hanes Cymru yn fan'na gan Martin Johnes wrth iddo fo drafod ei gyfres deledu Wales: England's Colony?
Hanes J Foss Davies, un o gasglwyr caneuon gwerin Ceredigion sydd nesa gyda Meinir Jones Parry yn trafod y dyn arbennig yma efo Dei Tomos

Geraint Lloyd - Siop Esi

llwyddiant mawr - a huge success
rheolwraig - manageress
mewn bodolaeth - in existence
hen archeb - an old invoice
y fyddin - the army
annibynnol - independent
y ganrif ddiwetha - the last century
y syniad o gymuned - the idea of a community
atgofion - memories
ambell i nain - the odd grandmother

Ac o hanes Ceredigion i hanes Blaenau Ffestiniog. Mae Delyth Evans o Gwm Nantcol wedi cael llwyddiant mawr yn ddiweddar - yn y ‘National Footwear Awards'. Hi ydy rheolwraig siop 'sgidiau Cambrian Boots - neu Siop Esi - fel mae hi'n cael ei nabod ym Mlaenau Ffestiniog. Mae'r siop mewn bodolaeth ers 1911 a thua 1926, gwraig o'r enw Esi Elisabeth oedd y perchennog, ac mae rhai yn dal i alw'r siop yn ‘ Siop Esi'. Cafodd Delyth sgwrs am y busnes efo Geraint Lloyd nos Fercher.

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Be sy' 'na mewn enw ?