主播大秀

T Llew Jones

T Llew Jones

T Llew Jones oedd un o awduron enwocaf llyfrau Cymraeg i blant. Mae cenedlaethau o blant ysgol wedi darllen ei lyfrau ac chael eu swyno ganddynt.

Fe'i ganwyd ym Mhentre-cwrt ger Llandysul yn y flwyddyn 1915 a mynychodd yr ysgol Ramadeg leol.

Bu'n gweithio fel athro am 35 mlynedd - yn Ysgol Gynradd Tregroes, ac yna yn Ysgol Coedybryn ger Llandysul lle y bu'n Brifathro am gyfnod.

Dechreuodd ysgrifennu straeon pan oedd yn blentyn, ond yn ystod y 1950au dechreuodd gyhoeddi rhyddiaith a barddoniaeth.

Enw ei nofel gyntaf oedd Trysor Plas y Wernen. Fel sawl un o'i lyfrau roedd wedi ei gosod ym mro ei febyd, Ceredigion. Fe ysgrifennodd dros hanner cant o lyfrau yn y pen-draw, gan gynnwys 35 o lyfrau i blant.

Yn stor茂wr medrus, mae ei lyfrau yn tynnu ar chwedlau, cymeriadau a llefydd lleol. Mae ogof芒u y smyglwyr ym mae Ceredigion, Twm Sion Cati, Sion Cwilt a Barti Ddu oll yn ymddangos yn ei waith.

Dydy hi ddim yn syndod fod ei dalentau wedi ennill cryn adnabyddiaeth iddo. Yn 1958 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ac efe oedd y bardd buddugol y flwyddyn olynol hefyd.

Yn 1991 fe dderbyniodd wobr Mary Vaughan Jones, gwobr sydd yn cydnabod cyfraniadau sylweddol i lenyddiaeth plant yng Nghymru. Mae hefyd wedi ennill gwobr llenyddol Tir na n'Og ac yn 1977, rhoddwyd gradd anrhydeddus iddo gan Brifysgol Cymru.

Mae rhai o'i lyfrau wedi eu cyfieithu i'r Saesneg ac eraill, megis T芒n ar y Comin a Dirgelwch yr Ogof wedi eu haddasu ar gyfer y teledu.

RoeddT Llew Jones hefyd wedi sefydlu enw iddo'i hun fel chwaraewr gwyddbwyll gwych. Yn wir fe ysgrifennodd ef a'i fab Iolo yr hyn a gredir i fod yr unig lyfr Cymraeg sydd yn esbonio cymhlethdodau'r g锚m hwn.

Yn gyfrannydd cyson i rhaglenni teledu a radio Cymraeg, roedd yn byw ym Mhontgarreg ger Llangrannog yng Ngheredigion ac ym mis Mawrth 2005 fe enillodd y gadair yn Eisteddfod flynyddol Cymdeithas Ceredigion.

Dathlodd ei ben-blwydd yn 90 oed ym mis Hydref 2005.

Yn 93 oed, bu farw ym mis Ionawr 2009.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 主播大秀 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.