主播大秀

T Llew Jones - marw brenin ll锚n plant

Enw

21 Ionawr 2009

Colli un o eiconau'r genedl

Bu farw'r bardd a'r llenor T Llew Jones yn 93 oed fis Ionawr 2009.

Cafodd ei ddisgrifiod fel brenin a thywysog llenyddiaeth plant Cymru ond yr oedd hefyd yn fardd o fri, yn feistr ar y gynghanedd a oedd wedi ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.;

Fe'i disgrifiwyd "un o eiconau'r genedl" gan yr Archdderwydd Dic Jones.

"Bydd y genedl gyfan yn gweld ei eisiau, fel bardd, athro, beirniad, llenor a darlledwr 芒 llais unigryw oedd wedi ei greu ar gyfer meicroffon.

"Bydd llawer ohonom yn teimlo fel petaem yn edrych i gyfeiriad y silff ben t芒n ac yn gweld un o'r llestri gorau ar goll," meddai.

Trysor cenedlaethol

Ar 主播大秀 Radio Cymru disgrifiodd Catrin Beard ef fel eicon a thrysor cenedlaethol y mae gan bawb atgofion hoffus amdano fel personoliaeth yn ogystal 芒 llenor.

Wrth drafod ei waith dywedodd Catrin Beard sydd yn un o ohebwyr y celfyddydau ar raglen bore Sul Dewi Llwyd, mai'r hyn oedd yn arbennig am ei straeon oedd eu bod yn "straeon da" ac "mor wreiddiedig yng Nghymru."

"Roedden nhw mor Gymreig yn defnyddio ffigurau fel Twm Sion Cati yn ardal Ceredigion," meddai.

.

"Roedd e'n ddyn Ceredigion yn byw yng Ngheredigion drwy'i oes ac yn creu y straeon yma oedd yn bachu'ch dychymyg chi ac yn eich tynnu chi mewn iddyn nhw.

"Ac mae'n dyst i'r cyfrolau yma fod plant hyd yn oed heddiw yn eu darllen . . . oherwydd bod y straeon mor afaelgar a'r cymeriadau yn dda," meddai.

Talodd deyrnged iddo hefyd am fod "mor hael efo'i amser" gyda phlant ac am fod 芒 diddordeb mawr mewn beth oedd gan blant i'w ddweud.

Cyfeiriodd Dewi Llwyd at ei gyfnod yn y fyddin yn Affrica lle'r oedd yn cael ffafriaeth gan uwch swyddogion oherwydd ei ddoniau fel cricedwr!

  • Mewn sgwrs gyda Dei Tomos ar 主播大秀 Radio Cymru ddiwedd 2006 bu T Llew Jones yn trafod ei hoff gerddi yn sgil cyhoeddi ei gyfrol Geiriau a Gerais gan Wasg Gomer fis Tachwedd 2006. 拢7.99

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.