主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dorothy Griffiths Atgofion Dorothy
Atgofion Dorothy Griffiths o Ystradgynlais am ei dyddiau fel plentyn noddedig yn y dref yn ystod y 1940au.
Daeth Dorothy Griffiths o Ystradgynlais ar fws 主播大秀 Cymru i adrodd ei hanes fel plentyn noddedig yn y dref yn ystod y 1940au.

"Dwi'n cofio'r Ail Ryfel Byd, roeddwn i'n 11, oedran pan chi yn cofio pethau. Roedd y 'shelter' lawr yr hewl, nursing home oedd e ble oedd y mamau a'r babis. Roedden ni'n mynd lawr 'na bob nos. Roeddwn i'n clywed y seiren yn mynd felly roedd rhaid mynd i'r shelter, falle bo ni yn y gwely ond o ni'n gofod mynd. Roedd yn rhaid i ni gadw'n dawel ond roedd yn job gan fod lot o blant yna.

Un nosweth dyma rhywun yn dod i mewn a dweud bo Chapel Street, ein stryd ni, wedi cael ei bombio, ond pryd atho ni mas dim ond yr eglwys a'r tai rownd ein stryd ni oedd wedi mynd. Bore ar 么l 'ny roedde ni wedi codi'n gynnar er mwyn mynd ar y ffrynt a chwilio am shrapnel ond yr oedran yna doedd rhywun ddim yn meddwl pa mor serious oedd pethau.

Ro ni'n byw yn Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn 1941 daeth evacuees lawr i Gymru. Wrth gwrs roeddwn i'n meddwl mai gwlad yn bell i ffwrdd oedd Cymru. Daeth tua 40 ohono ni lawr ar y bws. Roeddwn i'n excited ond hefyd yn flin bo fi'n gorfod dod, ond roedd fy chwaer da fi so ro ni'n teimlo'n well bo hi 'da fi.

Daetho ni lawr i'r Neuadd Les yn Ystradgynlais a sefyll am y dynion oedd yn yn mynd 芒 ni i'r billterts - roedde ni'n hwyr yn mynd o'r neuadd. Roedden ni'n byw yn Caerbont ar y cychwyn ond doeddwn i ddim yn hapus iawn ble oedden ni'n sefyll ac felly aetho ni lawr i'r billits arall a gafo ni'n rhoi efo anti ac wncwl, fel ni'n galw nhw. O ni'n lico byw yn fana.

Es i i'r ysgol; roedd dosbarth i'r criw Saesneg a'r criw Cymraeg a gofynnes i sa ni'n cael mynd mewn i'r class Cymraeg achos o ni isie dysgu'r iaith Gymraeg. Fe wedodd Miss Edwards, popeth yn iawn. Es i mewn a dysges i, 11 oeddwn i bryd 'ny - roedd hi'n haws i mi ddysgu oedran 'ny nag yn henach. Dysgu Cymraeg

Roeddwn i'n awyddus iawn i ddysgu'r Gymraeg. Roeddwn i'n mynd i'r cwrdd a pan oedden ni'n mynd mas roeddwn i'n gofyn i'n anti beth oedd ryw air ac roeddwn i'n cofio. Roeddwn i hefyd yn ffrind efo'r pregethwr a'i wraig. Fe ddechreues i ddysgu adrodd yn yr Eisteddfodau ac fe ennilles i lot yn yr Eisteddfodau - roeddwn i'n cael bag bach gyda arian, deuswllt neu hanner coron ynddo - a oedd yn lot bryd hynny. Roeddwn i'n joio fe. Roeddwn i bach yn nerfus cyn mynd ar y stage ond unwaith roeddwn i arno ro i'n anghofio popeth ac yn cario mlaen.

Wedyn gymres i ran mewn drama Emlyn Jones, Ar Drothwy'r Wawr yn 1947. Aetho ni ar draws Cymru i gyd 'da fe. Roedd Youth Club da ni yn Ystradgynlais hefyd a roedd pethau'n mynd mla'n yn y capel. Es i wedyn i weithio yn ffactri, Anglo Celtic. Roeddwn i'n gweithio yna a daeth yr amser pan oedd yn rhaid i'r evacuees fynd yn 么l ond roeddwn i'n dwli bod yma - doeddwn i ddim moyn mynd yn 么l i Lerpwl o gwbl. Aeth fy ffrindiau o Lerpwl yn 么l ond nes i aros ac wedyn cwrdd 芒'm g诺r a ni dal i fyw yn Ystradgynlais.



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy