主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Golygfa wrth ymyl Llanrhaeadr ym Mochnant Adnabod Ardal - dwyrain Maldwyn
Taith drwy hanes br枚ydd dwyrain Sir Drefaldwyn gyda Glyn Evans yn esbonio rhin a rhamant yr ardal hon sydd ar y ffin 芒 Lloegr.

Gwelir olion o ddyddiau cynnar y ddynoliaeth yng Nghymru yn yr ardal hon. Darganfuwyd bedd yn Llandysilio yn dyddio o 3000 C.C. Mae hen olion hefyd yn Llanrhaeadr.

Yr oes efydd
Cafwyd olion, gan gynnwys bwyeill, drwy'r ardal. Mae'r gaer yng Nghroesoswallt yn perthyn i'r cyfnod yma. Mae olion magu anifeiliaid a thyfu gwenith a haidd.

Yr oes haearn
Mae sawl bryn-gaer- Collfryn, Llansanffraid; Derwlwyn, Llanfyllin; Craig Rhiwarth, Llangynog a Llangedwyn. Mae olion aredig a chloddio am gopr a haearn.

Rhufeiniaid
Bu caer dros dro yng Ngharreghofa a stordy nwyddau yn Llansanffraid. Credir iddynt doddi plwm yn Llanfyllin. Roedd y brodorion yn parhau i fyw yng Nghollfryn. Mae olion fferm yn Llandrinio ac 么l cloddio am gopr yn Llanymynech.

Oes y Saint
Yn nyffryn Tanad sefydlodd y brodyr Dogfan a Chynog eglwysi a sefydlodd Garmon eglwysi yn Llanfechain a dyffryn Ceiriog. Roedd merched yn cael eu priod le, gyda Melangell ymysg yr enwocaf, a Ffraid hefyd. Plant tywysogion oeddynt yn aml. Byddai clas lle trigai'r gymdeithas ger yr eglwys.

Oes y Tywysogion
Symudodd brenhinoedd Powys o Bengwern (Yr Amwythig) i Fathrafal, ger Meifod tua 765 O.C. Rhannwyd Powys yn 1160 gydag afon Rhaeadr yn ffin. Parhaodd hwn tan yr ad-drefniant olaf pan ddaeth dyffryn Tanad yn 么l i Bowys. Codwyd cestyll yn Llanfechain a Llanfyllin i amddiffyn y dywysogaeth.

Roedd gan Groesoswallt gastell ac roedd muriau i amddifyn y dref. Bu cryn ymladd ar y gororau ac roedd gan Owain Glynd诺r blas yn Sycharth ger Llansilin. Fe losgodd ef Groesoswallt fel rhan o'i ymgyrch.

Crefydd
Roedd Crynwyr yng Nghaeaubychain yn Llanwddyn ond mudo wnaethant i Bennsylvania yn America cyn 1700. Un o'r capeli hynaf yng Nghymru yw Pendref, Llanfyllin. Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Pendref oedd yr enwad gyda'r mwyaf o aelodau yn Llanfyllin.

Roedd y Preisiaid o Blas Uchaf, Llanfyllin yn Gatholigion. Collasant eu hystad wrth dalu dirwyon am beidio mynychu'r eglwys. Arhosodd y brenin Siarl yno am noson ar ei ffordd i frwydr Caer.

Yr Esgob William MorganYn Llanrhaeadr ym Mochnant y cyfieithodd William Morgan y Beibl i'r Gymraeg ym 1588. Mae llwybr yn mynd trwy'r fynwent a thros yr afon at y fan lle roedd adeilad ganddo i wneud y gwaith.

Bu Ann Griffiths, Dolwar Fach, yn cyfansoddi emynau a gyhoeddwyd ar 么l ei marwolaeth gan John Hughes, Pontrobert. Cafodd ei thr枚edigaeth yn Llanfyllin.

Aeth John Davies o Lanfihangel i Tahiti yn y M么r Tawel yn genhadwr. Fe ddysgodd yr iaith frodorol a rhoddodd iddi iaith ysgrifenedig ffonetig, fel y Gymraeg.

Yn y ddeunawfed ganrif y bu t诺f yn nifer y capeli Presbyteraidd, Wesleaidd ac Annibynwyr. Ychydig o gapeli Bedyddwyr a godwyd.

Tlotai
Roedd un ym Morda, Croesoswallt ac un yn Llanfyllin. Roedd bywyd mor galed oddi mewn nes bod rhaid bod mewn cyfyng gyngor i fynd iddynt. Mae'r ddau wedi cau ac fe aeth Morda ar d芒n ugain mlynedd yn 么l. Mae'r Dolydd yn Llanfyllin yn segur ers blynyddoedd.

Addysg
Bu ysgolion teithiol Gruffydd Jones a rhai SPCK yn yr ardal. Agorodd teulu Plas Llwydiarth ysgolion yn Llanfyllin a Llanfihangel. Daeth eraill ar 么l deddf 1870. Agorwyd ysgol ramadeg yn Llanfyllin ym 1895 - ar 么l y gweddill yn Sir Drefaldwyn, gan fod teulu Plas Llwyn yn gwrthwynebu. Codwyd ysgol newydd ar Faes y Llwyn ym 1953.

Trafnidiaeth
Ffyrdd tila oedd cyn y ffyrdd tyrpeg a agorwyd o Lansanffraid i Langadfan a Llangynog. Roedd rhaid talu am fynd trwy'r llidiardau. Roedd tolldy yn Llansanffraid, dau yn Llanfyllin ac un ym Mhontllogel. Aeth y tollau ym 1886 pan roddwyd cyfrifoldeb am ffyrdd i'r cynghorau sir.

Agorwyd y gamlas drwy Carreghofa ym 1797 i gludo calch a nwyddau. Fe estynnwyd y gamlas i'r Drenewydd erbyn 1822. Ym 1861 agorwyd rheilffordd rhwng Croesoswallt a'r Trallwm.Dwy flynedd wedyn agorwyd lein Llanfyllin. Fe roddodd John Vaughan, twrne o Lanfyllin, 拢3000 tuag at godi lein Llanfyllin. Daeth ei 诺yr, Oliver Bullied, yn ben beirianydd y Southern Railway.

Amgueddfa CroesoswalltBu t诺f aruthrol ym mhoblogaeth Croesoswallt ar 么l sefydlu pencadlys rheilffordd y Cambrian yno. Roedd y gwaith trwsio a chynnal a chadw'r cwmni yn cael ei wneud yng Nghroesoswallt. Erbyn heddiw amgueddfa fechan sydd ar 么l.

Codwyd lein fach o'r Waun i ddyffryn Ceiriog ym 1872 i gludo llechi a cherrig i lawr y dyffryn a glo a phowdwr i fyny. Cafwyd injans i dynnu'r tryciau a'r coetsys yn 1886. Caeodd ym 1935. Mae un goets i'w gweld yn Nhywyn yn gweithio ar lein Talyllyn. Agorwyd rheilffordd dyffryn Tanad ym 1904. Fe ddaeth y lein yn rhy hwyr i fod o gymorth i'r diwydiant plwm a'r chwareli llechi. Mae darn bach ar 么l o Lanyblodwel i Groesoswallt sydd yn segur ar hyn o bryd.

Diwydiant
Roedd ffatr茂oedd gwl芒n yn Llanwddyn, Penybontfawr, Llanfyllin a dyffryn Ceiriog. Codwyd plwm yn Llangynog rhwng 1692 a 1916. Roedd chwareli llechi yn Llangynog a dyffryn Ceiriog. Chwarel Wynne, y Cambrian a'r Hendre oedd y rhai mwyaf. Roeddynt oll wedi cau erbyn 1950. Roedd gwaith calch ym Mronygarth a Phorthywaen. Mae gwaith Crugion yn dal i godi cerrig. Bu pyllau glo yn ardal y Waun a Chroesoswallt. Mae trigolion dyffryn Ceiriog yn gweithio yn Kronospan a Cadbury's yn Y Waun. Mae ffatr茂oedd yng Nghroesoswallt a Llanfyllin. Mae amaeth yn dal i gynnal sawl teulu yn yr ardal.

Coedwigaeth
Plannwyd llawer o goed yn Llanwddyn ar 么l y Rhyfel Mawr. Mae yno dros bum mil o gyfeiriau dan goed erbyn heddiw. Mae coedwigaeth yn rhoi gwaith yn nyffryn Ceiriog hefyd.Mae deorfa bysgod ym Mhontfaen ger Y Waun sy'n dal i fynd ers dechrau'r ganrif ddiwethaf.

Diwylliant
Bu'r beirdd yn canu clod i deulu Plas Llwydiarth yn yr oesoedd canol. Bu llawer yn cyfansoddi carolau'r blygain. Ymysg llenorion yr ardal oedd Gwallter Mechain, Myllin, John Ceiriog Hughes a Glyn o Faldwyn. Roedd Gwallter Mechain yn ysgrifennu traethodau.Claddwyd Huw Morris, "Eos Ceiriog," yn Llansilin.Ganwyd Ceiriog ym Mhen-y-bryn, Llanarmon, ym 1832. Bu'n reolwr Rheilffordd y Fan, Caersws. Pa Gymro neu Gymraes sydd heb ganu "Nant y mynydd"? Fe'i claddwyd yn Llanwnog ger Caersws.

Codwyd neuadd Goffa Ceiriog ym 1911. Casglwyd 拢36 ym Mhatagonia ac fe brynwyd dodrefn derw i'r llyfrgell a'r ystafell ddarllen gyda'r arian hwn. Mae ffenestri lliw hardd gan y neuadd. Mae'n parhau i gael ei defnyddio yn gyson.

Glyn Evans



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy