主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1900 - 1913

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Llundain

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • 1 Ionawr, y pensiynau cyntaf yn cael eu talu i bobl dros 70 oed.
  • Cyllideb Lloyd George yn siomi'r Tor茂aid: cyflwyno 'supertax' o 6d ( 2 1/2c ) i'r rhai a enillai dros 拢5000 ac ychwanegu at dreth alcohol a baco i dalu am wasanaethau lles.
  • Ympryd y swffragetiaid yn dod 芒'r arfer o fwydo drwy orfod i ben. Yn 么l yr arfer hwn byddai swyddogion carchar yn gwthio tiwb dwy droedfedd o hyd drwy drwynau'r carcharorion.
  • Comisiwn yn argymell na ddylid gorfodi plant i fyw mewn wyrcws. 'Roedd traean o bobl ardaloedd trefol Prydain yn diweddu eu heinioes mewn lleoedd fel y wyrcws, clafdai neu seilam.
  • Louis Bleriot yn llwyddo i hedfan awyren ar draws M么r Udd.
  • Y Prif Weinidog, Asquith, yn addo hunan-lywodraeth i Iwerddon.
  • Noah Ablett yn ffurfio'r 'Plebs League' yn y Rhondda er mwyn gorchfygu cyfalafiaeth drwy weithredu'n uniongyrchol.
  • Agor Doc y Brenin yn Abertawe.
  • Geni George Thomas, yn ddiweddarach Arglwydd Tonypandy, yn Port Talbot.
  • Freddie Welsh o Bontypridd yn ennill gwregys Lonsdale am y tro cyntaf.

Archdderwydd            Dyfed

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Gwlad y Bryniau'
Enillydd: T. Gwynn Jones
Beirniaid: John Morris-Jones, J. J. Williams
Cerddi eraill:

Yr ail am y Gadair oedd R. Williams Parry. Galwodd John Morris-Jones ef 'Y meistr mwyaf ar y gynghanedd o'r ymgeiswyr oll'. Yn 么l J. J. Williams, Williams Parry oedd y 'cynganeddwr goreu'n fyw'. Y trydydd yn y gystadleuaeth oedd Brynfab (Thomas Williams). Yn awdl Brynfab y cafwyd yr englynion enwog i 'Gymru', gan gynnwys yr enwocaf:


O! wlad fach, cofleidiaf hi; 颅 angoraf
         Long fy nghariad wrthi;
   Boed i foroedd byd ferwi,
   Nefoedd o'i mewn fydd i mi.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

'Roedd Rhamantiaeth y beirdd hefyd yn ei ffordd yn brotest yn erbyn y pryddestau diwinyddol, gyda'u disgrifiadau o harddwch corfforol merch yn enghraifft o rywioldeb yn dechrau treiddio drwy ffug-barchusrwydd a rhagrith crefyddol y cyfnod Fictoriaidd yng Nghymru. Dyma gyfnod 'Cwlt y Cnawd'. 'Roedd y Mudiad Rhamantaidd yn awr yn ei anterth, a merched lledrithiol oedd merched y beirdd. Ond 'roedd hollt enfawr rhwng cyfnos rhamantiaeth y beirdd a gwawr y rhyddfrydiaeth newydd a oedd yn torri uwch y wlad. Tra oedd y beirdd yn breuddwydio am gnawd a 'thrwsiad glana'r oesoedd' 'roedd y merched protestgar yn gwisgo gwisg wahanol iawn. 'Roedd sawl aelod o'r rhyw deg yn rhai dig. Nid oedd y rhain am dderbyn eu dyletswyddau traddodiadol, fel cynnal teulu, rheoli'r aelwyd a gofalu am y gegin, a gadael i ddynion reoli tynged y wlad.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Yr Arglwydd Rhys'
Enillydd: W. J. Gruffydd
Beirniaid: Ben Davies, R. Silyn Roberts

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Chwech yn unig yn cystadlu, a phryddest gymedrol yn hytrach na disglair yn ennill. Ar lawer ystyr yr oedd 'Trystan ac Esyllt' yn well pryddest na hi, mewn mannau o leiaf.

Y Fedal Ryddiaith                    Sefydlwyd ym 1937

Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993

Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 

Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy