主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1914 - 1937

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Caernarfon

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Miliwn yn ddi-waith ym Mhrydain.
  • Glowyr De Cymru yn streicio am dri mis.
  • Arwyddo cytundeb i sefydlu Iwerddon Rydd o 26 o siroedd yn y De.
  • Am y tro cyntaf, y Cyfrifiad yn dangos lleihad yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, gostwng i 37.2%.
  • Sefydlu Gwasg y Brifysgol.
  • D. H. Lawrence yn creu cynnwrf drwy ddisgrifio dau ddyn yn ymladd yn noeth yn ei nofel Women in Love.
  • Geni Harry Secombe.

Archdderwydd               Dyfed

Y Gadair

Testun. Awdl: Agored 
Enillydd: Meuryn ('Min y M么r')
Beirniaid: John Morris-Jones, Dyfed, J. J. Williams

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Awdl delynegol, bert oedd yr awdl fuddugol, a bu'n awdl boblogaidd iawn am flynyddoedd lawer, yn enwedig un darn cywydd adnabyddus. O safbwynt gelynion y canu caeth, yr oedd yr awdl hon yn brawf arall o amharodrwydd ac anallu'r beirdd caeth i wynebu bywyd fel ag yr oedd ac i symud ymlaen gyda'r oes. Tra cadeiriwyd awdl delynegol a ganai am serch a natur yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, coronwyd pryddest aflonyddus a oedd yn s么n am Lundain y clybiau nos, meddwdod ac erchyllterau'r Rhyfel Mawr.

Y Goron

Testun. Pryddest ar un o'r testunau canlynol: 'Breuddwyd Macsen', 'Gwilym Hiraethog', 'Arwydd Mab y Dyn;, 'Mab y Bwthyn'
Enillydd: Cynan ('Mab y Bwthyn')
Beirniaid: Anthropos, Crwys, Gwili

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

'Roedd pryddest Cynan yn sioc i ddarllenwyr barddoniaeth Gymraeg. Ni chafwyd ynddi ddim o'r eirfa eisteddfodol dreuliedig. Defnyddiodd iaith blaen, uniongyrchol i gyfleu ei neges losg. Mae'r bryddest yn llawn o angst y cyfnod 么l-Ryfel: siom, dadrith, euogrwydd, gwacter ystyr, a chais i foddi'r gwacter ystyr hwnnw yn y clybiau nos yng nghanol meddwdod, anfoesoldeb, y 'tango' a 'jazz'. Ceir ynddi ddisgrifiadau cignoeth o ymladd yn y ffosydd. Un o gefnogwyr ysgol 'realaeth' oedd Cynan, a galwyd y bryddest yn 'bryddest ryfedd' gan amryw.

Y Fedal Ryddiaith                    Sefydlwyd ym 1937
 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy