主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1914 - 1937

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Bangor

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Y Blaid Lafur yn diarddel Oswald Mosley.
  • Y Blaid Lafur yn wan iawn yn yr Etholiad Cyffredinol, ond Ramsay MacDonald yn parhau'n Brif Weinidog ar Lywodraeth Genedlaethol.
  • Diwedd gyrfa Lloyd George fel arweinydd y Rhyddfrydwyr.
  • Aflonyddwch yn y maes glo oherwydd y dirwasgiad. Terfysg ym Maerdy, Y Rhondda, a 33 o ddynion a thair merch yn mynd i garchar.

Archdderwydd               Gwili

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Breuddwyd y Bardd'
Enillydd: Gwenallt
Beirniaid: J. Lloyd Jones, J. J. Williams, T. H. Parry -Williams
Cerddi eraill: D. J. Davies, Prifardd y Gadair 1932, oedd yr ail, ac 'roedd awdl gan Dewi Emrys yn uchel yn y gystadleuaeth hefyd. Cystadleuydd arall oedd Edgar Phillips (Tref卯n).

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Pan sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru ym Mhwllheli ym 1925 symbylwyd ei sefydlwyr a'i harweinwyr gan safiad y Gwyddelod ym 1916. Adlewyrchir yr edmygedd hwn o genedlaetholwyr Iwerddon yn Awdl Gwenallt. Cerdd alegor茂ol yw hon am ddyfodiad y Mab Darogan i achub Cymru. Ymosodir ar Caradoc Evans, y llenor Eingl-Gymreig, ynddi, a chlodforir H. R. Jones, prif sylfaenydd y Blaid Genedlaethol, a oedd newydd farw. Awdl rymus yw 'Breuddwyd y Bardd'.

Y Goron

Testun. Pryddest: ' Y Dyrfa'
Enillydd: Cynan
Beirniaid: W. J. Gruffydd, Dyfnallt, J. E. Moelwyn Hughes
Cerddi eraill: Pryddest Dewi Emrys a ffafriai J. E. Moelwyn Hughes. Ymosododd yn hallt ar bryddest Cynan am ddefnyddio geiriau sathredig, a gwrthododd ymddangos ar y llwyfan gyda'i ddau gyd-feirniad mewn protest yn erbyn eu dyfarniad. Sarnicol oedd y trydydd i bob pwrpas, ac yr oedd gan Amanwy, Gwilym R. Jones a Gwilym Myrddin, Prifardd coronog y flwyddyn flaenorol, bryddestau yn y gystadleuaeth.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Ysbrydolwyd y gerdd hon gan genedlaetholdeb hefyd, yn union fel yn achos awdl y Gadair, ond cenedlaethodeb y b锚l yn hytrach na chenedlaetholdeb y bleidlais oedd thema'r bryddest fuddugol. Cerdd am John Roberts, y chwaraewr rygbi rhyngwladol a aeth yn genhadwr, ^wyr Iolo Caernarfon, beirniad a phrifardd eisteddfodol, yw 'Y Dyrfa'. Disgrifir g锚m rygbi yn Twickenham ynddi, a hynny gan ddefnyddio termau rygbi wedi eu lled-Gymreigio. Bwriad Cynan, unwaith yn rhagor, oedd ymestyn ffiniau barddoniaeth Gymraeg, yn thematig ac o safbwynt geirfa.

Y Fedal Ryddiaith                    Sefydlwyd ym 1937
 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy