主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1938 - 1955

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod      Pen-y-bont ar Ogwr

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Gandhi'n cael ei saethu.
  • Gwladoli'r rheilffyrdd a'r gwasanaeth trydan.
  • Cychwyn y Gwasanaeth Iechyd.
  • Yr Iddewon yn creu eu gwlad eu hunain: Israel.
  • Cyfnod y 'baby-boom'.
  • Yr RAF yn hedfan 芒 bwyd drwy goridor Berlin i drechu gwarchae'r Rwsiaid.
  • Sefydlu Cyngor Cymru.
  • Sefydlu Cyngor Cymru ar Wasgar.
  • Agor amgueddfa Sain Ffagan.
  • Cynghorau lleol yn cael yr hawl i roi cyfraniadau ariannol i'r Eisteddfod Genedlaethol pan gynhelid y Brifwyl yn eu hardaloedd nhw.
  • Y Gemau Olympaidd yn Llundain.
  • Geni'r tywysog Charles.

Archdderwydd               Wil Ifan

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Yr Alltud'
Enillydd: Dewi Emrys
Beirniaid: T. H. Parry-Williams, Gwilym R. Jones, Simon B. Jones
Cerddi eraill: W. D. Williams oedd yr ail, ac 'roedd dau o brifeirdd y dyfodol hefyd yn y gystadleuaeth, Mathonwy Hughes ac E. Llwyd Williams.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: 

Awdl sy'n cydymdeimlo 芒 gwerin Cymru yn ei thlodi a'i dioddefaint yw hon, ac mae hi yn yr un traddodiad ag awdl anfuddugol Eifion Wyn ym 1900, 'Y Bugail', 'Gwerin Cymru', Crwys, ac awdl foliant Gwilym R. Tilsley i'r gl锚wr. Difethir yr awdl gan gynganeddu cras, geirfa hynaflyd, ar brydiau, a mynegiant afrwydd.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'O'r Dwyrain'
Enillydd: Euros Bowen
Beirniaid: Crwys, Saunders Lewis, T. Eirug Davies
Cerddi eraill: Yr ail oedd Elwyn Evans, mab Wil Ifan, a oedd wedi llunio pryddest afaelgar, gref am ei brofiadau fel milwr yn yr Ail Ryfel Byd. Ceir ynddi rai darnau beiddgar iawn. 'Roedd Harri Gwynn wedi cystadlu hefyd.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:

Newydd ddechrau barddoni ym 1947 yr oedd Euros Bowen. Cerdd am yr haul yn codi o'r dwyrain fel grym daionus yw hon, cerdd am ddarpariaeth Duw ar gyfer dyn ac am draddodiad Cristnogol Cymru. Pryddest ar ffurf vers libre cynganeddol ydyw, ac mae'r cynganeddu yn gwmpasog ac yn brentisaidd yn aml.

Y Fedal Ryddiaith

Gwobrwywyd traethawd Dafydd Jenkins, Y Nofel: Datblygiad y Nofel Gymraeg ar 么l Daniel Owen , a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol 1946.
 
Tlws y Ddrama

Drama Hir
Enillydd:
Islwyn Williams
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy