主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1938 - 1955

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod              Caerffili

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Y Blaid Lafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol ond 芒 omwyafrif bychan iawn.
  • Etholiad gwael i'r Rhyddfrydwyr: o'r 475 o ymgeiswyr etholwyd 9 yn unig a 5 o'r rhain yng Nghymru.
  • Ethol tair merch yng Nghymru: Megan Lloyd George, Irene White a Dorothy Rees.
  • Comiwnyddion Gogledd Korea yn ymosod ar Dde Korea.
  • Cychwyn Ymgyrch Senedd i Gymru dan nawdd Undeb Cymru Fydd.
  • Mwyngloddio glo yn dod i ben yn Sir Benfro gyda chau glofa Wood Level yn Saundersfoot.
  • Newidiadau cymdeithasol yn dod i'r amlwg gydag agor sinem芒u ar y Sul yn Abertawe.
  • 80 yn marw pan ddisgynnodd awyren dilynwyr rygbi yn Llandow ar y ffordd yn 么l o Ddulyn.
  • Arolwg yn dangos mai dim ond 46% o dai Prydain oedd ag ystafell ymolchi.
  • George Orwell, George Bernard Shaw a Kurt Weill yn marw

Archdderwydd               Cynan

Y Gadair

Testun. 'Awdl Foliant i'r Gl锚wr neu'r Chwarelwr'
Enillydd: Gwilym. R. Tilsley ('Awdl Foliant i'r Gl锚wr')
Beirniaid: D. J. Davies, Gwenallt, Thomas Parry

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: 

Awdl a luniwyd ychydig cyn i'r gweithfeydd glo ddechrau cau fesul un. Yn y gerdd hon 'roedd Gwilym R. Tilsley yn clodfori'r moderneiddio a fu ar y pyllau, ond 'doedd dim awgrym ynddi fod y diwydiant glofaol ar fin wynebu cyfnod maith o newidiadau a phroblemau a fyddai'n arwain yn y pen draw at dranc y diwydiant. Ni lwyddodd ychwaith i wir gyfleu ing a chyni glowyr De Cymru. Er iddi ddod yn awdl boblogaidd, rhwydd yw'r cynganeddu a braidd yn arwynebol yw'r cynnwys a'r mynegiant.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Ifor Bach', 'Y Gaethglud' neu 'Difodiant'
Enillydd: Euros Bowen ('Difodiant')
Beirniaid: T. Eirug Davies, J. M. Edwards, Caradog Prichard
Cerddi eraill: Harri Gwynn oedd yr ail.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:

Yn ei bryddest mae Euros Bowen yn s么n am y bygythiad newydd a ddaeth wedi'r Ail Ryfel Byd, y gwrthdaro rhwng y gorllewin a'r dwyrain, rhwng y system gyfalafol a chomiwnyddiaeth, sef cyfnod y Rhyfel Oer, a'r byd dan gysgod difodiant. Cerdd vers libre cynganeddol oedd pryddest fuddugol 1950 hefyd, ac mae'n gerdd rymus iawn mewn mannau. Cerdd apocalyptaidd fel llawer o gerddi'r pedwardegau yn Saesneg.

Y Fedal Ryddiaith

Penderfynwyd gwobrwyo'r gwaith gorau rhwng 1948 a 1950. Dyfarnwyd y Fedal ym 1951 i R. Ifor Parry am Diwinyddiaeth Karl Barth , traethawd a wobrwywyd ym 1948.
 
Tlws y Ddrama

Drama Hir
Enillydd:
Neb yn deilwng
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy