主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1938 - 1955

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod              Llanrwst

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Ffrainc, Gorllewin Yr Almaen, Yr Eidal a gwledydd Benelwcs yn arwyddo cytundeb i ffurfio'r Gymuned Glo a Dur Ewropeaidd.
  • Llafur yn colli'r Etholiad Cyffredinol a Churchill yn Brif Weinidog ar Lywodraeth Dor卯aidd.
  • Penodi Syr David Maxwell Fife i'r swydd newydd, Gweinidog Materion Cymreig. 'Roedd hyn yn ychwanegol i'w swydd fel Gweinidog Cartref.
  • Arbrofi gyda'r bom H cyntaf.
  • De Affrica yn gwahardd y bleidlais i bobl 'liw'.
  • Lansio Ymgyrch Senedd i Gymru yng Nghaernarfon.
  • Protestio yn Nhrawsfynydd yn erbyn bwriad y Swyddfa Ryfel i brynu tir yn yr ardal.
  • Agor gwaith dur yr Abbey yn Port Talbot a fyddai'n creu gwaith i 20,000.
  • Enwi Eryri yn Barc Cenedlaethol cyntaf Cymru.
  • Teledu 主播大秀 yn dod i rai rhannau o Gymru
  • Cychwyn y 'Festival of Britain'.
  • Deutsche Grammophon yn cyflwyno'r record hir gyntaf.
  • Marw'r diwygiwr Evan Roberts.
  • Marw Ivor Novello. Ei waith olaf oedd Gay's the Word .

Archdderwydd               Cynan

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Y Dyffryn' neu 'Bro Hiraethog'
Enillydd: Brinley Richards ('Y Dyffryn')
Beirniaid: J. Lloyd Jones, William Morris, Roland Jones

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: 

Yn yr awdl hon mae'r bardd yn dychwelyd at y thema gyfarwydd o filwyr dau Ryfel Byd yn aflonydd yn eu beddau am fod yr heddwch eto yn fregus dan gysgod y bom. Mae Brinley Richards hefyd yn cyfeirio at y problemau a oedd yn wynebu Cymru wedi'r Rhyfel. Erbyn 1945 'roedd 10% o dir Cymru yn eiddo i'r Swyddfa Rhyfel. Ar 么l cipio mynydd Epynt, daeth y bygythiad i feddiannu rhan o fynydd y Preselau yn Sir
Benfro, a bygythiad arall ar ddechrau'r pumdegau i feddiannu pum mil o aceri yn Nhrawsfynydd, yn ychwanegol at y gwersyll a oedd yno. Awdl am bynciau cyfoes oedd hon, ond nid oedd awdl arbennig.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Adfeilion' neu 'Llywelyn Fawr'
Enillydd: T. Glynne Davies ('Adfeilion')
Beirniaid: T. H. Parry-Williams, Gwilym R. Jones, J. M. Edwards
Cerddi eraill: Gosodwyd pryddest gan Harri Gwynn yn uchel yn y gystadleuaeth. Yr oedd Tom Parry-Jones a John Eilian hefyd yn y gystadleuaeth.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:

Clodforwyd T. Glynne Davies am ennill y Goron yn ei dref enedigol ac am osod safonau newydd i feirdd newydd ail hanner yr ugeinfed ganrif. Dyma un o bryddestau gorau'r Eisteddfod Genedlaethol. 'Bydd y gerdd yma yn iechyd i farddoniaeth Gymraeg heddiw, oherwydd fe ddengys y gellir cynhyrchu gwaith o radd uchel yn y dull newydd yn ein hiaith ni, a hynny heb fod yn euog o rai pethau ag y bydd condemnwyr y canu modern yn hoff o'u hanelu ato,' meddai J. M. Edwards yn ei feirniadaeth. Pryddest am ddiboblogi cefn-gwlad, wrth i'r ddinas hudo trigolion y wlad, ac am farwolaeth hen ffordd o fyw. Mae hi hefyd yn astudiaeth seicolegol o unigrwydd ac o golled. Bu'n bryddest ddylanwadol iawn drwy gydol y pumdegau a'r chwedegau pan ddaeth 'Adfeiliaeth' yn thema gyffredin mewn barddoniaeth eisteddfodol.

Y Fedal Ryddiaith

Deunydd cyfrol o ryddiaith greadigol 
Enillydd: Islwyn Ffowc Elis ( Cyn Oeri'r Gwaed )

 
Tlws y Ddrama

Drama Hir
Enillydd:
Neb yn deilwng
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy