主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1956 - 1966

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Llangefni

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Gwrthwynebiad gan bobl amlbleidiol i'r bwriad i adeiladu cronfa ddwr yng Nghwm Tryweryn i ddarparu dwr i Lerpwl, ond methiant fu pob ymgyrch.
  • Penodi Harold Macmillan yn Brif Weinidog yn lle Anthony Eden.
  • Chwe gwlad, Ffrainc, Gorllewin Yr Almaen, Yr Eidal, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd a Lwcsembwrg yn arwyddo cyntundeb Rhufain gan sefydlu'r Farchnad Gyffredin Ewropeaidd. Prydain yn gwrthod ymuno.
  • Macmillan yn traddodi ei araith enwog: ' Most people have never had it so good'.
  • Adroddiad Wolfenden yn argymell caniat谩u gwrywgydiaeth preifat rhwng dynion dros 21 oed.
  • Rwsia yn anfon y roced gyntaf, Sputnik-1, i'r gofod, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn anfon ci, Laika, i'r gofod.
  • Cau pyllau glo yn Ne Cymru. Caewyd 50 rhwng y flwyddyn hon a 1964 adisgynnodd nifer y gweithwyr o 104, i 76,500.
  • Y 'beatniks' yn dod i'r amlwg gyda'u geirfa newydd: cats, dig,hip a groovy.
  • Marw Humphrey Bogart, Oliver Hardy, Arturo Toscanini, Sibelius a Gigli.

Archdderwydd               William Morris

Y Gadair

Testun. Awdl: Agored
Enillydd: Gwilym R. Tilsley ('Cwm Carnedd')
Beirniaid: Thomas Parry, Rolant H. Jones, Euros Bowen
Cerddi eraill: Gwilym Ceri Jones (yr ail, ond yr orau yn 么l Euros Bowen), T. Llew Jones (trydydd)

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Mae'r bardd yn adrodd hanes y newid a ddaeth i Gymru wedi'r Rhyfel. Mae'n gofidio am y bataliynau o goed bytholwyrdd a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigo ar draws ucheldiroedd Cymru. Mae'r awdl hefyd yn creu darlun trist o'r dirwasgiad a ddaeth i ardal y chwareli llechi wedi i'r economi cenedlaethol wegian, a chau'r chwareli fesul un wrth iddyn nhw orfod cystadlu 芒 deunydd toi rhatach o wledydd eraill. Creithiau ar wyneb y tir oedd y chwareli bellach a di-waith oedd nifer fawr o'r chwarelwyr. Ond mae Gwilym R. Tilsley hefyd yn gweld y gymdeithas yn newid, y patrwm gwaith yn mynd 芒 phobl i weithio mewn swyddfeydd, a diwylliant roc a rol yr arddegau yn disodli cymdeithas y festri. Mae'n un o nifer o gerddi eisteddfodol o'r cyfnod hwn sy'n s么n am wagio ac amddifadu cefn-gwlad Cymru.

Y Goron

Testun. Drama Fydryddol: 'Heledd', neu ddrama sy'n ymwneud 芒 bywyd cyfoes
Enillydd: Dyfnallt Morgan ('Rhwng Dau')
Beirniaid: Cynan, Gwilym R. Jones, John Gwilym Jones

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Drama fydryddol anarbennig.

Y Fedal Ryddiaith

Y Fedal Ryddiaith. Testun: Casgliad o Stor茂au Byrion
Enillydd: Tom Parry-Jones: Teisennau Berffro

 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy