主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1956 - 1966

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod     Llandudno a'r Cylch

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Kennedy yn mynd i Berlin ac yn llefaru'r geiriau: 'Ich bin ein Berliner'.
  • Yr Arlywydd Kennedy yn cael ei saethu. Penodi Lyndon B. Johnson yn Arlywydd yn ei le.
  • Lee Harvey Oswald, a gyhuddwyd o ladd Kennedy, yn cael ei saethu gan Jack Ruby.
  • Macmillan yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog, ac Alec Douglas-主播大秀 yn ei olynu.
  • Hugh Gaitskell yn marw a Harold Wilson yn dod yn Brif Weinidog.
  • Achos John Profumo, yr Ysgrifennydd Gwladol Dros Ryfel, a'i berthynas anweddus 芒 Christine Keeler a Mandy Rice-Davies. 'Roedd Christine Keeler hefyd yn cael perthynas 芒 llysgennad o Rwsia.
  • Beeching yn awgrymu cau chwarter o reilffyrdd y wlad, hyn yn arwain yn y pen draw at gau 2,128 o orsafoedd a cholli 67,700 o swyddi. Yng Nghymru ar ddechrau'r 60au 'roedd 538 gorsaf; ar ddiwedd y toriadau dim ond 200 oedd ar 么l gyda'r toriadau yn cael yr effaith fwyaf andwyol ar y canghennau gwledig.
  • Lladrad y ' Great Train Robbery'.
  • 200,000 yn gorymdeithio i Washington ac yn gwrando ar araith Martin Luther King, 'I have a dream'.
  • Y Pab yn marw a Paul VI yn ei olynu.
  • Rwsia yn anfon y ferch gyntaf, Valentina Tereshkova, i'r gofod.
  • Gweithred gyntaf Cymdeithas yr iaith Gymraeg pan rwystrwyd trafnidiaeth ar Bont Trefechan, Aberystwyth.
  • Y Frenhines yn agor gwaith hydro-electrig Ffestiniog.
  • Gwaith petro-gemegol Bae Baglan yn agor.
  • Sioe Amaethyddol Cymru yn symud i'r maes sefydlog yn Llanelwedd.
  • Enwi Caernarfon yn fwrdeistref frenhinol gyntaf Cymru.
  • Marw Aldous Huxley, Edith Piaf a Jean Cocteau.

Archdderwydd               Cynan.

Cynan oedd y cyntaf i gael yr anrhydedd am yr ail dro.

Y Gadair

Testun. Awdl: ' Genesis'
Enillydd: Neb yn deilwng
Beirniaid: Thomas Parry, William Morris, T. H. Parry-Williams
Cerddi eraill: Euros Bowen, W. J. Gruffydd, Emrys Edwards

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

'Yr oedd Thomas Parry yn dymuno cadeirio Euros Bowen, ond yr oedd yn rhy dywyll gan y ddau feirniad arall. Yn sicr, Thomas Parry oedd yn gywir. Mae 'Genesis' Euros Bowen yn awdl gyfoethog iawn mewn mannau, er gwaethaf sawl darn afrwydd ei fynegiant.

Y Goron

Testun. Pryddest: ' Y Bont'
Enillydd: Tom Parri-Jones.
Beirniaid: Cynan, Gwilym R. Jones, Waldo Williams
Cerddi eraill: mynnai Waldo goroni pryddest Dafydd Owen, ond ni fynnai'r ddau feirniad arall gytuno ag ef. 'Roedd pryddestau gan Dafydd Jones, Ffair-rhos, Gwilym Morris. Gwyn Erfyl a Rhydwen Williams yn y gystadleuaeth hefyd.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Cerdd anodd ar ffurf dialog oedd y bryddest hon, ond fe lwyddodd Tom Parri-Jones i danlinellu rhybudd a wnaed gan bobl fel Saunders Lewis, sef bod derbyn yr egwyddor ' Bread before beauty' yn warth ar y genedl. I nifer 'roedd y bwriad i adeiladu gorsafoedd niwcliar yn Nhrawsfynydd a'r Wylfa ym M么n yn Benyberth arall. Ond 'doedd neb yn fodlon gwrando ar y proffwydi gwyrdd cynnar, ac aeth y gwaith yn ei flaen.

Y Fedal Ryddiaith

Testun: Llyfr Taith
Enillydd: W. Llewelyn Jones: Ar Grwydr
 
Tlws y Ddrama

Gwilym T. Hughes
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy