主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 20 Mawrth 2011

Gatland yn feirniadol o'i chwaraewyr

Beirniadu ei chwaraewyr oedd ymateb yr hyfforddwr, Warren Gatland, i berfformiad siomedig Cymru yn erbyn Ffrainc nos Sadwrn.

Chwaraewyr Cymru wedi'r g锚m

Yn sgil buddugoliaeth Iwerddon yn erbyn Lloegr, roedd llygedyn o obaith i'r Cymry ennill y bencampwriaeth, petaent wedi sicrhau buddugoliaeth swmpus yn Stade de France.

Ond, diflannodd y gobaith yn sydyn iawn wrth i gamgymeriadau'r Cymry gyfrannu at ddau gais y clo, Lionel Nallet.

" Rwyf yn siomedig iawn, 'doedd y t卯m ddim yn ddigon cryf yn feddyliol heddiw," meddai Gatland wrth y 主播大秀.

"Pan fo' t卯m yn dangos cryfder meddyliol, mae'n fwy parod i gystadlu yn ardal y dacl, ac yn fwy ymosodol mewn meddiant. Ni ddigwyddodd hynny heddiw."

"Ildiwyd y b锚l yn rhy hawdd, roedd gormod o giciau cosb, a'n camgymeriadau ni arweiniodd at y ddau gais cyntaf," meddai Gatland.

Amddiffyn bl锚r y Cymry arweiniodd at gais cyntaf Nallet.

Oherwydd eu hansicrwydd a'u harafwch yn ardal y dacl, cododd clo Ffrainc y b锚l i fyny wedi sgarmes - a charlamu at y llinell.

Ar gyfer yr ail gais, cafodd gic James Hook ei tharo lawr gan Julien Pierre, cyn i Nallet oroesi dwy dacl, a chroesi am gais arall.

Roedd clo Cymru, Alun Wyn Jones, yn barod i dderbyn beirniadaeth yr hyfforddwr: "'D oedd yr awch ddim yno heddiw. Mae'n siomedig i ddarfod y bencampwriaeth efo perfformiad fel hyn, ac fel chwaraewyr, wnawn ni ddim esgusodion."

" Mae'r ystafell newid yn dawel, a phawb yn siomedig. Rydym yn anelu i fod ymhlith y tri ucha' yn y byd, ond 'd oedd y perfformiad ddim yno, heddiw - ac mae hynny'n brifo."

Awgrymodd y cefnwr, Lee Byrne, fo'r ffaith i'w gwrthwynebwyr brofi colled annisgwyl yn erbyn yr Eidal wythnos yng nghynt wedi ysbrydoli Ffrainc.

"Daeth y Ffrancwyr allan efo t芒n yn eu boliau. 'Ddaru ni'm troi fyny mewn gwirionedd, ac mae hynny'n siomedig ar 么l yr holl waith rydym wedi ei wneud," meddai Byrne.

" Mae'n rhaid disgwyl am gyfnod hir cyn cael cyfle i wisgo'r crys eto, a chywiro'r camgymeriadau. Rhaid gobeithio am well perfformiad y tro nesaf."

'D oes gan y t卯m cenedlaethol g锚m eto tan iddynt wynebu'r Barbariaid ar y 4ydd o Fehefin.

Cyfaddefodd y capten, Matthew Rees, mai ennill a cholli'r sgarmes oedd allwedd y g锚m:

"Roedd Ffrainc wedi targedu'r sgarmes a'n herio ni yn yr ardal yma o'r g锚m. Fe wnaethom ni nifer o gamgymeriadau, ac fe fanteisiwyd ar y camgymeriadau hynny."

"Roedd yna adegau pan eu bod yn dod i mewn o'r ochr, ond mae'n rhaid chwarae i'r chwiban, ac roeddynt yn ffodus i osgoi cael cosb."

" Er ein bod wedi cael tair buddugoliaeth yn y bencampwriaeth, rydym yn siomedig 芒 chanlyniad y g锚m hon. Mae gofyn i ni asesu'r perfformiad a dysgu'n gwersi."


chwaraeon



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy