主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 27 Mawrth 2011

Edwards yn gwadu penio'i gyd-weithiwr

Mae hyfforddwr amddiffyn y t卯m cenedlaethol, Shaun Edwards, wedi gwadu iddo benio Fergus Connolly yn y digwyddiad a arweiniodd at weld y ddau yn cael eu disgyblu a'u gwahardd o g锚m Cymru yn erbyn Ffrainc.

Cafodd Edwards a Connolly ddirwy o 拢500 yr un, ac mewn erthygl papur newydd, cyfaddefodd Edwards fod ffrwgwd wedi cymryd lle, ond fe wadodd iddo benio'r gwyddonydd chwaraeon.

Mewn erthygl yn y Sunday Times, dywedodd Edwards fod y digwyddiad wedi cymryd lle ar fws t卯m Cymru ar 么l y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon, a fo'r ffrwgwd wedi deillio o ddadl yngl欧n 芒 ch芒n a'i chanwyd.

"Roedd yr hogiau yn cael dipyn o hwyl wrth ganu, ond roedd Fergus wedi camddehongli'r sefyllfa.

"Daeth ataf yn ddiweddarach, ac roedd hi'n amlwg ei fod wedi gwylltio, ac yna roedd ffrwgwd. Mae'n bosib i'n pennau gyffwrdd gan ein bod yn sefyll mor agos, ond yn sicr wnes i ddim penio Fergus.

"Mae Fergus wastad wedi bod yn un o'm ffrindiau gorau, ac rydym yn ffrindiau eto erbyn hyn.

"Cefais gyfarfod efo Roger Lewis (prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru) ar ddydd Iau, ac fe fyddai'n cwblhau fy nghytundeb efo Cymru, gan ddechrau efo 'r g锚m yn erbyn y Barbariaid ym mis Mehefin, ac ymlaen at Gwpan y Byd," meddai Edwards.

"Rwyf yn parhau i fod yn hyfforddwr amddiffyn t卯m Cymru.

"Mae 'na ambell wythnos mewn bywyd, y byddai dyn yn falch o gael ei anghofio - dyna 'dw i'n gobeithio'i wneud efo'r wythnos honno."


chwaraeon



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy