主播大秀

Sian Owen - adolygiad M芒n Esgyrn

Rhan o glawr Man Esgyrn

07 Rhagfyr 2009

Adolygiad Eiry Miles o M芒n Esgyrn gan Sian Owen. Gwasg Gomer. 拢7.99.

Pe na bai Fflur Dafydd wedi cyflwyno Y Llyfrgell i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, mae'n bur debyg mai M芒n Esgyrn fyddai wedi mynd 芒 hi.

Clawr y llyfr

Ac yn ddiddorol iawn, ni allech gael dwy nofel fwy gwahanol i'w gilydd; lle mae Y Llyfrgell yn llawn s诺n a chyffro a chymeriadau dros-ben-llestri, nofel dawel, rywsut, yw M芒n Esgyrn, am bobl ddigon tebyg i chi a fi.

Ond er bod rhywbeth cyffredin a chyfarwydd am y cymeriadau, nid nofel gyffredin mohoni ac mae'n sicr ymhlith y goreuon a gyhoeddwyd yn Gymraeg yn ddiweddar.

Stori Carol a gawn, menyw 39 mlwydd oed sydd newydd ddychwelyd i F么n i redeg busnes gwerthu tai, ar 么l byw am flynyddoedd yn Lloegr.

Ar benwythnos crasboeth o haf, a'r dref wrthi'n dathlu G诺yl y Llychlynwyr, daw hen densiynau i'r wyneb wrth i Carol gwrdd unwaith eto 芒 Helen, ffrind o'r gorffennol. Yn raddol, down i ddeall natur gymhleth perthynas y ddwy 芒'i gilydd, yn ogystal 芒'r dynion yn eu bywydau - Bryn a Luc.

Gweithio yng ngwaith Bromin M么n a wna Helen, a dyna leoliad rhai o ddigwyddiadau mwyaf dramatig y nofel.

Gwelwn 么l ymchwil manwl ynghyd 芒 chefndir gwyddonol yr awdures yn y disgrifiadau o brosesau'r gwaith, ond nid yw'r ffeithiau a'r manylion yn llethu'r darllenydd, a cheir darlun byw o'r bwrlwm - a'r peryglon - o amgylch Helen.

Fel yr awgrymwyd eisoes, perthynas pobl 芒'i gilydd yw hanfod y nofel - y cyfrinachau y maent yn eu cadw oddi wrth ei gilydd, ac effaith y twyll arnynt. Ac nid stori am berthynas Carol, Helen, Luc a Bryn un unig yw hon, gan fod perthynas Helen 芒'i rhieni hefyd yn ganolog iddi. Gwelwn ei dirmyg tuag atynt, ond hefyd ei dibyniaeth lwyr arnynt.

Perthynas 芒 lle

Thema arall yw perthynas 芒 lle, ac mae'r nofel wedi'i lleoli'n bendant iawn yn Ynys M么n, sef milltir sgw芒r yr awdures.

Trwy gymeriad Carol, ceir disgrifiadau manwl o'r ynys, sy'n dangos ei hadnabyddiaeth drylwyr o'i thirwedd a'i bywyd gwyllt, a'i chariad tuag ati. Ond cymhleth yw perthynas Carol 芒 M么n gan fod y lle'n llawn atgofion ingol a brawychus.

Serch hynny, dewisodd ddychwelyd, ac fe'i gwelwn yn y nofel yn dechrau bwrw gwreiddiau, ac yn ceisio trosglwyddo'r cyswllt 芒 M么n i'w merch, Sera.

Dychwelyd i F么n i weithio ar raglen ddogfen a wnaeth Luc, ond mae'n amlwg bod rhywbeth arall yn ei atynnu yntau yno hefyd.

Felly, cawn ein hysgogi gan y nofel hon i feddwl am ein bro, a dylanwad ein hamgylchedd arnom, a'r modd y mae profiadau bore oes yn ffurfio ein cymeriadau.

Rhwydd a naturiol

Yn 么l Geraint V Jones, Si芒n Owen oedd 'arddulliwr gorau' cystadleuaeth Daniel Owen, ac yn sicr, mae ganddi arddull rwydd a naturiol a dawn arbennig i gyflwyno delweddau yn gynnil.

Enghraifft o hyn yw'r modd y mae Carol (bengoch) fel petai'n cynrychioli'r mwyn copr, a Helen (benfelen) fel y sylffwr peryglus, ymfflamychol.

Mae arlliw o dafodiaith M么n ar ei hiaith gyhyrog, a cheir ambell gyffyrddiad barddonol e.e. "mae'r nos wedi llyncu'r cysgodion a'r d眉wch nawr yn drwch", a'r disgrifiad trawiadol canlynol:

"Rhyfedd fel roedd pobl yn hoffi dinistr, yn hoffi gweld pethau'n llosgi, malu, diflannu. Ers talwm fe fyddai hithau wedi oedi yno a gwylio: gwylio'r fflamau yn llyfu'r waliau, bysedd y mwg yn cosi'r distiau a'r to gwellt yn chwysu, yn gollwng st锚m, cyn cydio."

Ychydig eiriau

Gall hefyd fynegi teimladau dwfn ag ychydig eiriau, megis yn yr eiliadau cyfrin rhwng Carol a Luc yn yr eglwys ac yn y disgrifiad cryno o Carol yn claddu Mwytha'r ci.

Cynnil hefyd yw'r fflachiadau o hiwmor sy'n ymddangos yma ac acw, megis yr hiwmor du - sy'n ymylu ar ffars - yn y cinio llawn tensiwn ar ddiwedd y nofel.

A rhaid canmol yn arbennig y modd y mae'n ymatal rhag datgelu cyfrinachau'r cymeriadau, mor gelfydd a disgybledig.

Ond efallai bod y cynildeb hwn, ar brydiau, hefyd yn un o wendidau'r nofel, gan fod ambell ddeialog braidd yn rhy annelwig. Teimlais fymryn ar goll tua chanol y nofel hefyd, heb ddeall yn iawn pwy oedd cymeriad Kathy, na beth oedd ei harwyddoc芒d.

Efallai bod hynny'n dweud mwy am fy niffyg amynedd i nag unrhyw ddiffyg ar y nofel, fodd bynnag, ac mae'r ffaith imi deimlo'r fath ysfa i wybod mwy am hanes Carol a Helen yn profi i'r awdures lwyddo i greu cymeriadau crwn a chredadwy.

Nid y prif gymeriadau'n unig sy'n ennyn ein cydymdeimlad; teimlwn i'r byw dros rieni Helen - Nel a Hywel Parry - wrth iddynt ddelio 芒 salwch Nel ynghyd ag ymddygiad oeraidd eu merch.

Cymeriadau byw yw gweithwyr y gwaith Bromin hefyd, fel Simon y rheolwr seimllyd, a Huw, y gweithiwr newydd, diniwed.

Anodd yw credu mai ymgais gyntaf yr awdures yw'r nofel gelfydd hon. Gobeithio bod llawer rhagor i ddod gan Si芒n Owen.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.