主播大秀

Gareth William Jones - mewn twll oherwydd Tiger Woods!

12 Ionawr 2010

Daeth helyntion carwriaethol y golffiwr Tiger Woods a chur pen annisgwyl i awdur o Gymro.

Bwriad Gareth William Jones oedd galw ei nofel chwaraeon nesaf - sy'n ymh茅l 芒'r byd golff - yn Dilyn y Teigr oherwydd bod Woods yn arwr i'r prif gymeriad.

Ond yn dilyn helyntion diweddaraf Tiger Woods dywed ei fod yn prysur grafu ei ben yn awr yn meddwl am deitl arall.

"Dydw i ddim yn credu y byddai'n gweddu erbyn hyn fel eilun i blentyn ifanc sy'n dechrau chwarae golff," meddai Gareth sydd yn dal i ddyfalu sut i ddod allan o'r twll y mae golffiwr enwocaf y byd wedi ei roi o ynddo.

Nofelau rygbi

Daeth Gareth William Jones i amlygrwydd gyntaf fel awdur llyfrau i rai rhwng 10 a 12 oed gyda'r gyfres lwyddiannus Mewnwr a Maswr.

Cyhoeddwyd wyth o straeon i gyd am ddau frawd yn eu harddegau, Llion a Ll欧r, yn chwarae rygbi - y gyntaf gan Myrddin ap Dafydd a'r gweddill gan Gareth.

Daeth y gyfres honno i ben a throdd Gareth, sy'n aelod o Glwb Golff y Borth ac Ynyslas ger Aberystwyth, at y meysydd golff am ei ysbrydoliaeth nesaf.

"Hynny am fy mod i fy hun yn chwarae golff a hefyd oherwydd bod Cwpan Ryder yn dod i Gymru," meddai.

Pan fo'r bachgen sy'n arwr y nofel yn symud i fyw mewn t欧 sy'n ffinio 芒 maes golff crand mae'r g锚m yn cael gafael arno ac er mewn trafferth cael ei 'dderbyn' gan y clwb mae'n gwneud dipyn o farc.

Gareth William Jones

Y bwriad oedd i'r stori ddod i fwcwl yng Nghystadleuaeth Ryder lle byddai Tiger Woods, arwr y bachgen, yn chwarae.

"Ond r诺an bod Tiger Woods wedi bod yn hogyn drwg yr ydw i wedi gorfod ailfeddwl am hynny ac yn gorfod meddwl am deitl arall i'r nofel," meddai Gareth.

Ac fe fydd yn rhaid gwneud hynny'n go fuan gan ei bod yn fwriad cyhoeddi'r nofel yn Eisteddfod yr Urdd yn Llannerchaeron eleni.

"Dydi hi ddim yn hawdd meddwl am deitl arall a fyddai'n gafael cystal. Ar ben hynny rydw i wedi gorfod newid enw'r bachgen yn y stori hefyd," meddai.

Gwasg Carreg Gwalch fydd yn cyhoeddi'r nofel - fel y gyfres Mewnwr a Maswr - ond yn gyntaf bydd yn rhaid i Gareth gael ei hun allan o'r twll y rhoddodd Tiger Woods ef ynddo!


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.