Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Fantastic Four
Mwy neis nag o ffantastig

PG

Tair seren allan o bump

Y sêr
Ioan Gruffudd, Michael Chiklis, Chris Evans, Jessica Alba, Julian McMahon,

Cyfarwyddwr
Tim Story

Sgrifennu
Michael France a Mark Frost - ar sail straeon comics Marvel.

Hyd
105 munud

Sut ffilm
Rhagor o ddynion yn defnyddio galluoedd anghyffredin ond nid i achub y byd y tro hwn ond i achub eu hunain - rhag dyn o ddur o'r enw Von Doom. A dyna oedd ei enw cyn iddo droi'n ddrwg!

Y stori
Yn dilyn damwain yn ystod taith i'r gofod mae pump o longwyr gofod yn etifeddu priodoleddau anghyffredin.

Mae'r arweinydd, gwyddonydd dawnus a thrwyadl o'r enw Reed Richards (Ioan Gruffudd) yn ennill y ddawn i ymestyn ei gorff fel pe byddai wedi ei wneud o lastig.
Etifedda ei hen gariad, Susan Storm (Jessica Alba), y gallu i droi'n anweledig a chreu cylchoedd ynni.
Gall ei brawd iau hi, Johnny Storm (Chris Evans), droi ei hun yn belen o dân - The Human Torch - a hedfan fel rhyw seren gynffon efo dolur rhydd drwy'r awyr.
Rhinwedd newydd y peilot, Ben Grimm (Michael Chiklis) yw troi cyn galeted â charreg ac yn eithriadol o gryf ac mor hyll y mae'n cael ei adnabod fel y Thing .

Defnyddia'r miliwnydd Victor Von Doon (Julian McMahon) ei alluoedd newydd ef i reoli trydan er drwg gan orfodi'r pedwar i ymladd am eu bywyd rhag ei gynlluniau dichellgar i gael gwared â hwy - yn bennaf oherwydd bod y ferch anweledig y mae a'i lygaid arni yn closio at Reed unwaith eto.Y canlyniad
Mae'n rhaid i rywun gael ei blesio - gan fod o leiaf bedair ffilm arall yn y pair.

Ond ffilm sy'n hynod o araf yn cychwyn yw hon. Yn ddymunol yn hytrach nag yn ffantastig - hyd yn oed yn yr ail hanner pan fo dipyn o hwyl wrth i'r pedwar gecru ymhlith ei gilydd wrth geisio dygymod a'u galluoedd newydd cyn asio'n gyfeillion i drechu Von Doom.

Y darnau gorau
Yr olygfa ar bont Efrog Newydd pan yw y Thing yn achosi'r hunllef drafnidiaeth fwyaf ofnadwy wrth geisio perswadio dyn i beidio a thaflu ei hun oddi ar y bont.
Tra'i fod o'n dod o hyd i'w nerth anhygoel, mae Johnny yn poethi, Sue yn mynd a dod a Mr Fantastic yn ymestyn ei hun i helpu pawb.

Yr ail olygfa orau ydi dyweddi y Thing yn dychwelyd ei fodrwy ddyweddïo iddo - am na all hi ddygymod a bod yn gariad i beth mor hyll! Oooooo.

Sue yn weledig ac anweledig bob yn ail ar y bont.

Perfformiadau
Yng Nghymru fe fydde chi'n meddwl mai dim ond Ioan Gruffudd sy'n cymryd rhan yn y ffilm.

Ond chwarae teg, nid y wasg a'r cyfryngau Cymreig yn unig fu ar ei ôl a bu erthyglau canmoliaethus ym mhapurau Lloegr hefyd.

Bu'n gyfle i'w ddyfynnu sawl gwaith drosodd yn dweud ei fod o'n mwynhau Los Angeles ac awgrymu y bydd o maes o law yn gofyn i'w gariad, y mae'n byw â hi yno, ei briodi ac yn gyfel hefyd i ddarogan beth nesaf ddaw i'w ran.

O'r pedwar - ef sydd wedi cael y sylw mwyaf.

Parthed yr actorion eraill, mae'r cecru rhwng Y Dyn Tân a Thing yn gweithio'n well nag odid dim arall yn y ffilm.

Rhai geiriau
"Tyd yn dy flaen - ychydig ddiwrnodau yn y gofod; be di'r peth gwaetha all ddigwydd i rywun?"

Rhai gwersi
Mewn undeb mae nerth - ac mae'n rhaid wrth gydweithrediad amryfal alluoedd y pedwar i gael y llaw uchaf ar Doom.

Nid wrth eu golwg y mae beirniadu pobl - ond wedi dweud hynny merch ddall sy'n ymserchu yn Thing

Gystal â'r trelar?
Dydio ddim gwaeth.

Ambell i farn
Dywedodd un beirniad fod y Fantastic Four yn gwneud i i Batman Begins edrych fel rhywbeth wedi ei sgrifennu gan Dostoevsky gan ychwanegu na fydd y ffilm hon yn trethu meddwl y cyn-arddegau hyd yn oed a hithau wedi ei hanelu at y rhai sy'n dal i wlychu'u gwe;yau!

Dipyn o hwyl oind ymhell o fod yn ffantastig yw barn gwefan ffilmiau y Ö÷²¥´óÐã ond mae'n prysuro i ychwanegu mai prif bwrpas y ffilm, beth bynnag, ydi gosod y seiliau ar gyfer rhagor o ffilmiau.

Rhoddodd y Daily Mirror ddwy ddalen ar draws ei ganol i'w hyrwyddo ond dywedodd y Guardian fod y pedwar fel pe byddent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gwenu'n swil i gymeradwyaeth pobl sy'n casglu o'u cwmpas.

Gwerth mynd i'w gweld?
Yn fwy o ffilm neis nag o ffilm dda - a does iddi ddim mo'r un steil a gafael â Superman na'r ail Spiderman a'r Batman diwethaf - ond ydi, mae'n werth picio i'w gweld.

Ffaith
Gwnaed ffilm Fantastic Four o'r blaen ond na chafodd erioed ei dangos. Heb yn wybod i'r actorion ei hunig bwrpas oedd i gadw'r hawlfraint yn nwylo'r stiwdio. Oni bai fod ffilm wedi ei gwneud erbyn dyddiad penodol byddai'r hawlfraint yn cael ei golli!

Beth sydd gan Ioan Gruffudd i'w ddweud?

Cysylltiadau Perthnasol
Meddai Ioan Gruffudd

Ioan Gruffudd


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý