主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleisiau
Rebecca Jones Dyma fy mro
Mae Rebecca Jones yn ohebydd gyda 主播大秀 Radio Cymru yn y de orllewin. Dyma hi yn s么n am yr ardal a beth mae'n ei olygu iddi hi.

Yn unllygeidiog - ond yn driw i ngwreiddiau!
Un o Gwmllynfell odw i. Wel, i fod yn fanwl gywir, un o Gefnbrynbrain, ond os gofynnwch chi i unrhyw un o drigolion y Cefen neu Ystradowen ddweud ble ma' nhw'n byw, yr ateb gewch chi yw Cwmllynfell.

Cwmllynfell yw'r pentre' canol o'r tri, yr un sy'n clymu. Si诺r o fod achos taw fan hyn ma' pawb yn cwrdd i siopa a chlecan - ac ma'r glec yn felys ambell waith hefyd. I fod yn onest, wi'n dwli ar hynny.

I'r rheina ohonoch chi sy' ddim yn gyfarwydd 芒'r ardal; yn nhopie Cwmtawe ma'n milltir sgw芒r i.

Dinas Abertawe sy'n gorwedd i'r de ddwyrain a thre' Rhydaman i'r gorllewin. I Rhydaman es i i'r ysgol gyfun a fan'no, wedodd rhywun wrth fy chwaer; "Galle ti ddarllen War and Peace ddwywaith ar y ffordd lan i t欧 chi."

Canol y byd
Ond, yn fy meddwl i, do'n i ddim yn byw'n bell o unrhyw le. I fi, y Cefen o'dd canol y byd. Ac mae'n ganol i'm byd o hyd er bo' fi'n byw ym metropolis y Betws ger Rhydaman nawr.

Soi'n gwbod pam; allai ddim esbonio'r dynfa wi'n deimlo at yr ardal ond dyma lle ma' Gartre' o hyd.

Falle mod i'n euog o ddishgwl ar y darlun drwy gornel cul fy llygaid yn unig, ond i fi, ma'r teimlad wi'n cael wrth fod ar y Cefen yn gyfforddus.

A ma' gwbod fod rhywle y gallwch chi fynd iddo, i deimlo'n gyfforddus yn werth y byd i ni gyd.

Byw a gwitho
Diolch yn dalpe bo' fi'n gallu byw a gwitho yn yr ardal hon nawr. I weud y gwir, wi'n amau os byddwn i'n gallu gwneud y gwaith wi'n wneud nawr, heblaw am y fagwraeth ges i ar y Cefen.

Byw yn y gymuned hon, roddodd gyfle i fi ddysgu siwd i siarad gyda, ac i adnabod pobol.

Dyma rai o'r prif sgiliau wi'n eu defnyddio yn fy ngwaith fel gohebydd newyddion i'r 主播大秀.

Dishgwl dan yr wyneb
Bron yn ddyddiol, wi'n galw ar fy nghysylltiade'n y cylch i'm cynorthwyo. Oherwydd yn y gymuned hon fel yn ych cymuned chi, si诺r o fod, mae cyfoeth o wybodaeth a gallu.

Dim ond dishgwl dan yr wyneb damed bach sy' ise neud. Ma' gan bawb 'i brofiad, ei stori a'i farn unigryw.

Pawb yn gweud y gwir fel ma' nhw'n i gweld hi. Pawb yn gweud pethe mawr.

Pawb yn rhoi addysg imi - addysg o'r fath sy'n hawdd i'w llyncu ac yn adrodd cyfrolau'n fwy na sawl llyfyr.

Cymeriade a llefydd
Ma' llu o gymeriade wi'n hoff iawn ohonyn nhw yn byw yn yr ardal hon. Pobol onest, naturiol, dim nonsens. Do's dim cleme yn perthyn iddyn nhw, fel fydden ni yng Nghmtawe'n gweud.

Oherwydd, os o's un peth wi'n gas谩u, wel pobol yn llawn o'u pwysigrwydd nhw'u hunain yw hynny.

Ma'n hoff lefydd i yn yr ardal hon, hefyd yn glwm wrth bobol. Er enghraifft. Cegin Lavinia Evans.

Fy mam fedydd i yw Lavinia ac er nad ydw i'n i gweld hi mor amal a hynny, ma' wastad croeso ar ei haelwyd hi.

Allai agor y drws cefn, camu mewn i'r gegin heb wahoddiad dan weiddi "Haia Lavinia, fi sy' ma."

Ac yn syth, fe fydd Lavinia'n ymateb, a'i gw锚n yn amlwg yn ei llais. "Wel siwd wyt ti de?" Wedyn, bydd y tegyl yn cael ei ddodi ar waith, a'r siarad yn dechre.

Tadcu'n ffarmio
A 'na chi le arall sy'n agos at fy nghalon i yw, Ffarm Nant y Brain. Dyma'r tir buodd tadcu'n ffarmio.

Ro'n ni'n dou'n ffrindie mawr, o'n ni'n deall y'n gilydd. A dyna pam fyddei'n neis meddwl y galle'i gyn gartre' fe fod yn gartre' i fi rhyw ddydd.

Wi'n credu mod i wedi bod yn ddigon unllygeidiog am y Cefen a'r cylch nawr. Ond chi'n gwbod beth, sai'n credu bod ise fi ymddiheurio am hynny o's e'?

Wedi'r cwbwl, os na alla' i fod yn driw i'm gwreiddiau, a chanu eu clodydd, pa obaith sydd i unrhyw un arall eu parchu?

Beth sydd gennych chi i'w ddweud am eich ardal
Cliciwch i anfon ebost


Cyfrannwch

Dorian Williams, Caerfyrddin
Roedd hi'n hyfryd clywed eich stori Rebecca, cofiwch fi at Tim.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy