主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lleisiau
Sian yn darlledu Sian Thomas - darlledu yn ei bro
Yn ystod mis Mawrth 2004 bu Sian Thomas yn teithio bro ei mebyd yn y de orllewin yn cyflwyno ei rhaglen ddyddiol ar 主播大秀 Radio Cymru ffel rhan o gynllun Lleisiau. Yma mae'n sgrifennu am y profiad.
Fues i erioed yn un oedd yn gallu pacio'n dda pan ddaeth hi i baratoi at daith neu wyliau!

Dwi'n gweithio ar yr egwyddor fod pob siop yn mynd i fod wedi cau, felly dwi'n pacio pob dim - jest rhag ofn!

CloncanPan glywais i, felly, mod i'n darlledu'n fyw o'r gorllewin am dair wythnos, 'roedd rhestr yr 'Essentials' yn hirfaith, fel y gallwch ddychmygu.

"Allwch chi ddim paratoi gormod," medde'r llais bach yn fy mhen ac am unwaith, ro ni'n iawn - roedd angen y sgidje mawr a'r wellingtons, y cryse T a'r thermals, y cotie glaw , siwmperi, menig, hetie, ymbarel a'r sbectol haul.

Mewn tair wythnos, mi daflodd y tywydd ei ore a'i waetha ato ni - o heulwen braf y gwanwyn ar Barc y Strade i law y basa Noa wedi teimlo'n gartrefol ynddo yng Nghastell-nedd a Llandeilo.

Eira mawr yn Llanelli a Chwm Gwendraeth, a gwyntoedd cryfion fu bron a chwythu criw Radio Cymru i ben y Mynydd Du, yn Ystradgynlais.

Do, mi brofodd y garafan fach oedd yn stiwdio symudol, bob dim mewn tair wythnos.

Ond er gwaetha'r tywydd amrywiol, bu croeso trigolion y De Orllewin mor dwymgalon ag erioed, ac o'dd dim prinder o goffi cynnes, sglodion, pasteiod a brechdanau i'n cadw ni fynd.

Fel croten o Gwmtawe roedd yn hyfryd cyfarfod eto a rhai o hen ffrindiau'n y cwm a chael rhannu clonc a chlec bob pnawn.

Bu'n gyfle hefyd i neud ffrindiau newydd a chlywed hanesion diri o gymoedd hyfryd y de orllewin.

Prysurdeb darlleduFalle mod i'n "biased" ond dwi'n siwr bo llwch y glo yn ychwanegu ei sbarc ei hun i sgwrsio'r ardal hon.

Ceafis gwmni difyr sipswn eraill a ymunodd a fi yn y "garafan mewn cwr o fynydd" - nifer yn leisiau cyfarwydd i'r rhaglen; Ena , Alyson, Alvis a Derfel,- diolch i bob un ohonyn nhw am eu cyfraniadau gwerthfawr a diolch i Gymru'r De Orllewin am ein croesawi a breichiau agored.

Mae'r teithio bellach ar ben, i mi, o leia, ond mae'r rhaglen yn parhau bob pnawn rhwng dau a thri yn genedlaethol, a rhwng dau a phedwar yn y de orllewin, y tro hwn o stiwdio barhaol y 主播大秀, lle nad yw'r coffi'n blasu cweit cystal!

A be sy ar 么l i mi? Wel, pentwr o olch, a sortio bwt y car a rhyfeddu na ches i gyfle i ddefnyddio'r "deckchair" wnes i bacio - jest rhag ofn.

Mi gadwith honno tan y tro nesa sbo!

Mae Si芒n Thomas ar 主播大秀 Radio Cymru bob dydd: yn genedlaethol o 2 - 3 y prynhawn ac yn darlledu i'r de orllewin rhwng 3 a 4 y prynhawn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy