主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanerchaeron Treftadaeth ar agor i bawb
Medi 2009
Mae nifer o ganolfannau treftadaeth yn y De Orllewin yn agor eu drysau ar Fedi 12 i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Treftadaeth.

Ddydd Sadwrn, Medi 12, fe fydd dros 200 o safleoedd treftadaeth yng Nghymru a Lloegr yn agor eu drysau fel rhan o gynllun Diwrnodau Treftadaeth Agored. Fe fydd gan y cyhoedd fynediad am ddim i nifer o safleoedd ar draws Cymru, a nifer ohonyn nhw yn y De Orllewin.

Rhaeadr Aberdulais

Dyma'r rhaeadr Ewropeaidd mwyaf sydd o hyd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan. Yn ogystal 芒'r rhaeadr, mae ty twrbinau, lle mae arddangosfa rhyngweithiol er mwyn dangos sut mae cynhyrchu trydan. Mae arddangosfa arall ar y safle yn dangos gweithfeydd tun ar waith. Mae modd hefyd i weld pysgodfa ar y safle.

Parc a Chastell Dinefwr, Llandeilo

Cafodd y castell ei godi yn y ddeuddegfed ganrif, ac o'i gwmpas, mae erwau o dir o'r ddeunawfed ganrif, gan gynnwys parc ceirw. Mae mwy na 100 o geirw ar y safle. Y tu fewn i'r castell, mae arddangosfeydd amrywiol yn darlunio bywyd y cyfnod, gan gynnwys hanes y castell a'r ardal. Mae rhai o'r ystafelloedd yn dal i gael eu haddurno mewn dull sy'n nodweddiadol o'r flwyddyn 1912.

Mwynfeydd Aur Dolaucothi

Mae modd mynd ar deithiau dan ddaear i weld y mwynfeydd aur Rhufeinig, a chael gweld arddangosfa o sut mae cynhyrchu nwyddau allan o'r aur sy'n cael ei gloddio.

Gerddi Coediog Colby ger Amroth

Mae bywyd gwyllt y gerddi'n syfrdanol, ac fe gewch chi gyfle i grwydro o amgylch y safle, sydd wedi ei amgylchynu gan furiau cerrig. Mae llu o lwybrau 芒 phyrth yn agor i goedwigoedd a chaeau Sir Benfro.

Ty Masnachwyr Tuduraidd, Dinbych y Pysgod

Cewch gyfle i grwydro o amgylch y ty Tuduraidd tri llawr hwn o'r bymthegfed ganrif, gan ddarganfod sut roedd y masnachwr Tuduraidd yn byw.

Aberdeunant, Llandeilo

Dyma ffermdy Sir G芒r traddodiadol ar ei orau. Yma fe gewch flas go dda ar sut mae byw a gweithio ar fferm yn yr ardal.

Llanerchaeron

Os mentrwch chi allan ychydig i'r gogledd o Sir G芒r, fe gewch chi ymweld 芒 safle plasty Llanerchaeron ger Aberaeron. Yma, cewch weld crandrwydd y ddeunawfed ganrif yng Nghymru, gyda thir fferm o amgylch. Fe fydd y safle'n gartref i Eisteddfod yr Urdd 2010.

Am ragor o wybodaeth, ewch i lle cewch chi fanylion am yr holl safleoedd hyn a mwy yn Saesneg ac i am ragor o wybodaeth am Eisteddfod yr Urdd 2010.

  • 主播大秀 Lleol Gogledd Orllewin.


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy