Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ynys BÅ·r Ynys BÅ·r: Llais y brodor
Cyflwyniad i Ynys BÅ·r, oddi ar arfordir Dinbych y Pysgod yn Sir Benfro, lle triga cymuned o fynachod a phobl leol ochr yn ochr.

Mae'n debyg y byddai pawb sy'n gwybod am yr ynys fach oddi ar arfordir Dinbych y Pysgod yn ei hadnabod ar unwaith fel ynys y mynachod.

Mae'n wir fod mynachlog wedi bod ar Ynys BÅ·r ers y chweched ganrif ac mae'n parhau hyd heddiw; ond a oes mwy i hanes yr ynys fach hon na thraddodiadau ac arferion y mynachod yn unig?

Hanes yr ynys
Mae hanes Ynys Bŷr yn dal i swyno pobl heddiw ac yn denu ymwelwyr o bob cornel o'r byd. Mae traddodiad bywyd syml o dlodi ac addoliad heddychol sydd gan y mynachod yn dal i fod ar yr ynys. Fel modd o godi digon o incwm i gadw bywyd syml, mae'r grŵp bach o bymtheg Mynach Sistersaidd yn denu twristiaid yn yr haf gan werthu cynnyrch personol o siocled a pherarogl sydd yn cael eu gwneud ar yr ynys.

Gellir ymweld â nifer o adeiladau ac arteffactau hynafol wrth fynd am wibdaith ar un o'r cychod sydd ar gael. Cartref i nifer o fannau hanesyddol sydd yn bwysig o ran crefydd yw'r ynys gan gynnwys Croes yr Ogam o'r 6ed ganrif, capel bach Rhufeinig ac Eglwys o'r 12fed ganrif. Gallwch ddilyn hanes y Fynachlog a'i hymdrech i oroesi trwy gyfnodau o anhawster fel y Diwygiad Protestannaidd o dan Harri VIII.

Fodd bynnag, nid pob ymwelydd sy'n mynd i'r ynys sy'n sylweddoli bod yna gymuned fach o bobl gyffredin yn dal i breswylio mewn pentref bach ar yr ynys, sydd ddim ond yn un neu'n ddwy cilomedr ar draws!

Felly pa fath o gymuned sydd ar yr ynys heblaw am y fynachlog?
Benedict LargeSiaradais ag un brodor, Benedict Large, sydd bellach yn 22 oed a chafodd ei fagu yno hyd nes yr oedd yn 14 mlwydd oed. Er ei fod wedi byw ar y tir mawr ers wyth mlynedd erbyn hyn, mae e'n dal i ymweld â'r lle yn rheolaidd er mwyn gweld ei fam-gu a thad-cu yno, ac mae e wedi sylwi ar wahaniaethau yn y gymuned ers ei ddyddiau ar yr ynys.

"Pan magwyd fy mrodyr a fi ar Ynys Bŷr, roedd nifer o deuluoedd gweddol ifainc yno hefyd. 'Dw i'n cofio chwarae criced ar y cae gydag un o'r mynachod yn cymryd rôl y dyfarnwr."

Roedd ysgol gynradd i'w chael ar yr ynys pan yr oedd Benedict a'i frodyr yn blant, gydag un athro yn byw mewn bwthyn gerllaw.

"Roedd deg ohonom ni yn yr ysgol ar y pryd" meddai, "pan wela' i'r ysgol nawr mae'n edrych mor fach ond dwi'n cofio meddwl roedd yn weddol fawr! Yr un peth gyda'r eglwys a phopeth arall i ddweud y gwir- mae'n beth rhyfedd i ail ymweld â'r llefydd hyn trwy lygaid twrist."

Mae rhywbeth swynol am y syniad o fod yn blentyn yn tyfu lan ar ynys fel Ynys Bŷr. Ychydig iawn o geir sydd yno, mae llawer o fannau bach diddorol i guddio a gwneud dens ac wrth gwrs llawer o bobl newydd i gwrdd â nhw bob dydd yn ystod yr haf. Mae preswylwyr yr ynys yn croesawu ymwelwyr ac maen nhw'n falch iawn o etifeddiaeth y lle.

Gan: Kirsty Jones

  • Cliciwch yma i weld lluniau o Ynys BÅ·r


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý