主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bach o Bopeth

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y cymeriad Bicky Pollard o'r gyfres Little Britain ar 主播大秀 Caerfyrddin: tref y chavs?
Wedi ymweld 芒 thref Caerfyrddin yn ddiweddar? Wedi bod yng nghanol y dref? Wel efallai eich bod chi wedi dod ar draws sawl chav ar eich ymweliad.
Chav? Dyma'r term, ac os nad y'ch chi'n siwr beth mae'n ei olygu, gwell i chi ddarllen ymlaen.

Y gred gyffredinol yw, bod yr hyn a elwir heddiw yn chav fel arfer yn gwisgo trainers gwyn, gemwaith rhad sy'n edrych fel aur neu arian. Y merched 芒 chylchoedd mawr yn eu clustiau a'u gwallt wedi'i dynnu'n 么l yn dynn. Mae gwisgo siacedi gwyn ffwr a siacedi denim rhad, trowsus chwaraeon tynn a bag Louis Vuiton ffug hefyd yn boblogaidd ganddynt.

Tra bydde'r bechgyn yn gwisgo "hoodies" gyda'r hood yn cuddio'r wyneb, heb anghofio'r cap ag enw Von Dutch ffug arno, a thracsiwt am y gwaelod.

Yn 么l y papur newydd lleol Carmarthen Journal daeth Caerfyrddin i'r deg uchaf ym Mhrydain ar wefan chavtowns.co.uk, am gael poblogaeth uchel o'r hyn a ddisgrifir fel chavs.

Ein hymchwil ni
Felly un dydd Sadwrn fe wnaethon ni ymholiadau yn y dref i weld beth oedd barn y bobl ifanc ar chavs yng Nghaerfyrddin:-

Y cwestiynau a ofynnwyd oedd:

  • Wyt ti'n meddwl bod gormod o chavs yng Nghaerfyrddin?
  • Wyt ti'n meddwl bod Caerfyrddin wedi troi yn dref y chavs?
  • Wyt ti neu un o dy ffrindiau'n cwympo i mewn i'r categori hyn?
  • Beth wyt ti'n ei feddwl ohonyn nhw a'u steil?

    Cafwyd atebion amrywiol i'r cwestiynau uchod:

    "Oes (mae gormod o Chavs yng Nghaerfyrddin), ydi (mae Caerfyrddin yn troi yn dref y chavs) , na (dydw i na fy ffrindiau ddim yn un ohonyn nhw), cheap a tacky (yw beth dw i'n ei feddwl amdanyn nhw)!" - Elin Nicholls, 17 oed o Gaerfyrddin

    "Y pwynt cyntaf yw bod hawl gan bawb wisgo beth maen nhw'n mo'yn, ond wedyn sai'n deall pobol sy'n gwisgo hoods yng ngolau dydd neu siacedi mawr ffwr yn yr haf a gwisgo bling gyda dillad chwaraeon sy'n amlwg ddim yn edrych yn dda.
    Mae fy mrawd yn chav ac yn difetha'i olwg. Chi ffaelu gweld ei wyneb, ac mae'n meddwl ei fod yn hip hop artist a ma fe'n amlwg bod e ddim, o bell ffordd."

    Rowan Davies, 17 oed o Gaerfyrddin

    "Dyw'r "olwg" sydd gan y chavs ddim yn apelio atai, sai'n deall pam ma pobol mo'yn gwisgo fel na, yn enwedig y merched. Mae llawer o bobol Caerfyrddin yn gwisgo fel chavs, bydde ni ddim. Ma rhai yn ysgol yn gwisgo fel na ond sai'n si诺r os ma nhw yn gwybod bo nhw!!"
    Daniel Griffiths, 15 oed o Gaerfyrddin

    "Dyle neb farnu beth ma pobol yn wisgo, lan iddyn nhw yw e. Rwy'n nabod lot o bobol sy'n 'chavs' a ma nhw'n bobol 'normal' sydd ddim yn gomon, ma nhw'n neis iawn, jyst dyna'u steil nhw o wisgo jyst fel mae rhai yn gwisgo fel goths a hippies. Efallai bod llawer o bobol yn chavs yn byw yn y dref ond jyst dyna'r steil o wisgo, felly jyst derbyniwch e."
    Jodie Morgan, 16 oed o Gaerfyrddin.

    "Ydw dw i'n meddwl bod Caerfyrddin yn 'chav central'! Ma' llawer gormod o 'spinners' hefyd! Os na watchwn ni, bydd y byd yn dechrau troi'n gyflymach! Rwy'n casau'r dillad Burberry ma nhw i gyd yn gwisgo 'fyd! Ma rhai yn gallu bod yn oce, ond mae nhw'n territorial mewn gangs! Dyle'r cyngor gymryd drosodd a rhoi walad iddyn nhw achos maen nhw'n cymryd drosodd!
    Aled Thomas, 17 oed o Drefach.

    "Fi'n meddwl bod gormod o chavs, ond sai'n credu bod Caerfyrddin cweit yn dref y chavs eto, o gymharu 芒 rhai llefydd. Sai'n chav na un o'm ffrindiau. Eu penderfyniad nhw yw gwisgo fel na a dyw e ddim yn neud nhw'n wahanol. Byddwn i byth yn chav!!"
    Rhiannon Owen, 17 oed o Gaerfyrddin

    Sgw芒rYn ogystal 芒 holi cwestiyne, fe arhoson ni tu allan i siop Woolworths ar y Clos Mawr yng Nghaerfyrddin am gwarter awr i weld sawl chav a basiodd

    Fe gyfrifon ni 54. Buon ni y tu allan i siop Millets am gwarter awr - a chyfri 69. Tu allan i siop Superdrug - cyfrifon ni 37. Tu allan i'r llyfyrgell - fe basiodd 55.

    Lle maen nhw'n crynhoi?
    Wrth holi pobol fe ddaethom o hyd i hang outs y gangiau. Yn 么l pobol ifanc Caerfyrddin maen nhw yn crynhoi yn y parc, mewn corneli ar ganol stryd yn Greyfriars gan amlaf yn sgwrsio tu allan i ddrysau siopau, yn y Golden Lion, yn y nos maen nhw yn ymgynull ym maes parcio MFI neu'r lle mwyaf poblogaidd yw yn nhafarn y Jolly Tar.

    Nid yw hyn yn awgrymu mai dim ond chavs sydd yn ymweld 芒'r llefydd a gafodd eu henwi.

    Felly ar 么l ein ymholiadau yng Nghaerfyrddin fe ddaerthom i'r casgliad, fod "tref y chav" yn enw addas i Gaerfyrddin.

    Gan: Siwan, Catrin, Rowan a Fflur.

    Dyma farn rhai o bobol ifanc Caerfyrddin. Ond beth ydych chi'n ei feddwl?

    Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno 芒'r erthygl uchod? Ydy'r sylwadau yn rhai teg? Mynegwch eich barn a dechreuwch drafodaeth trwy roi eich sylwadau yn y blwch isod.


  • Cyfrannwch

    Canu o'r Galon o Frechfa
    Ni farnwch ar sail gwisg! Dysgodd Iesu i ni weld pawb yn gyfartal - "car dy gymydog fel ti dy hun" , a dyna ddylem ni bobl Gaerfyrddin wneud. Wrth farnu pobl wrth eu dillad rydym yn creu cymdeithas wan yng ngolwg Duw! Dysgwch ddod yn ffrindiau efo'r bobl yma, ac fe ddewch i weld eu bod yn bobl gyffredin fel chi a fi.

    Hannah o Landeilo
    Ma cymysgedd o bobl yma. Nid yw'r 'chavs' yn broblem go iawn! Mae'n annheg iawn i weud bod rhywun yn 'chav' achos bod nhw'n gwisgo 'tracksuit'. Mae'n hefyd yn annheg i gwyno hyd yn oed oes yw'r dref gyda llawer o 'chavs', nid ydyn nhw'n achosi problemau. Nid oes lle i bobl ifanc i gwrdd, ble does neb yn labelio nhw am y ffordd mae nhw'n siarad a gwisgo.

    Chav Lover o Llanelli
    Fi'n cytuno da Chav o Gaerfyrddin - be sy'n bod ar chavs? Ma ffrind gore fi a brawd fi a 2 ffrind arall fi yn chavs ond sa nhw yn gas i neb. Chi jyst yn stereotypo heb nabod nhw. Ma nhw actually yn pobl neis iawn.

    Chav o Gaerfyrddin
    Fi YN chav a fi'n prowd o fod yn un hefyd. Sain understando beth chi da against nhw?!

    Rheinallt Williams, Caerfyrddin
    Mae "Chavs" a "Hoodies" ym mhob man! Nid wyf o blaid y datganiad fod Caerfyrddin yn dref y chavs! Onid yw trwbwl yng Nghaerfyrddin yn ddim o'i gymharu a^ dinasoedd fel Llundain, Maenceinion a.y.b. O fewn y dinasoedd yma mae llofruddiaethau ac anafiadau difrifol wedi dod i fod yn ddyddiol! Mae rhai pobl yn ofn edrych ar rhywun y ffordd anghywir rhag cael eu ymosod, a dydi cerdded y strydoedd wrth eich hun ddim yn opsiwn yno. Yn un o glybiau nos Caerfyrddin bu dwy ferch yn ymladd, ac roedd yn rhaid i un fynd i Ysbyty Glangwili a derbyn triniaeth. O'r herwydd i'r camymddwyn cyhoeddus yma mae CCTV wedi datblygu. Diolch yn fawr, a byddwch yn gall!

    Rhian Owen o Caerfyrddin
    RWYN FALCH BOD RYWUN DI DWEUD RYWBETH! Da iawn chi! Mae rhai o ffrindiau fi yr un peth Rowan! Fi'n credu ma nhwn meddwl bod nwhn fifty cent neu rywbeth! Y ffwls!

    JOSHUA CAERFYRDDIN
    MAE CHAVS YN MEDDWL BOD NHW YN GALED OND MAEN NHW YN OFN. MAE NHW YN EDRYCH YN DDWL IAWN

    JESSICA EVANS A HELEDD EVANS!
    DYDY HYN DDIM YN WIR! RYDYM YN ANGHYTUNO!

    Beth o sir Gaerfyrddin
    Mae hawl gan bawb wisgo ac ymddwyn fel maen nhw moyn (o fewn rheswm!) so dw i'n meddwl chware teg i'r unigolion hyn i fod yn wahanol os mae dyna fel maen nhw moyn bod. Os mae'n nhw yn bod yn fygythiol at bobl eraill, wel mae hynny yn stori wahanol, ond dyle ni ddim barnu pobl jyst am beth maen nhw yn ei wisgo.
    Gyda llaw, oes unrhyw un yn gallu meddwl am enw Cymraeg am 'chavs'???

    sali a jac o park hall
    Rydym ni'n credu bod llawer o chavz yn y dre, rydym yn teimlo o dan fygythiad oherwydd os ydym yn edrych arnyn nhw maent yn dod ar ein 么l ac yn creu gelyn ohonnom.
    Mae eu steil yn comon iawn ac rydym yn casu'r dillad maent yn gwisgo.

    Mae rhai chavz yn bobl neis a dylwch dod i wybod y bobl cyn eu barnu,(roedd rhaid i ni ddweud hynny neu byddwn gyda chavz ar ein hol.) Rydym wedi dod i gwybod llawer ohonynt,a dydyn nhw ddim yn neis.

    Queen of Spin o Aber
    Rwy`n credu bod gan pawb hawl i wisgo beth bynnag mae nhw moen (shock horror- I speak welsh!!!). Nid rwyf yn hoffi y gwisg chav llawer.

    Dwlali a Loopy o Sir Gar
    Dwlali-fi'n casau chavs. mae'n nhw'n edrych mor stupid yn ei "bling" ac yn eu tracwisgoedd hyll. Os ydy Vicky Pollard yn apelio atoch chi, wel Duw a'ch helpwch chi!! Loopy- Sai'n meddwl bod chavs yn edrych mor wael a na, ond nid ydw i na fy ffrindiau yn un ohonyn nhw.

    Helsig Griffiths o Llanllawddog
    Mae Chavs yn meddwl eu bod nhw mor gr锚t ac yn gwneud i pobl arall teimlo mor fach. Mae gormod o chavs yng Nghaerfyrddin.

    will o Drimsaran
    Falle bod tipyn o chavs yn y dref ond rwy'n gweld y merched sy'n chavs yn rhywiol dros ben so gadwch nhw i fod. Lan i'r unigolyn fel maent yn gwisgo!!!!!

    Bethan (yn wreiddiol o Gaerfyrddin)
    Dw i'n meddwl bod yn iawn i bawb fod yn wahanol, a mae'n dda bo ni gyd ddim yn edrych a gwisgo yr un peth. Jyst achos bod y bobl yma yn cael eu ystradebu fel 'chavs' ddim yn neud nhw yn wahanol i neb arall. Pawb i fod fel maen nhw mo'yn bod, os nad ydyn nhw yn neud drwg i eraill - dyna fy marn i ta beth!

    Da iawn i Ysgol Bro Myrddin ar y cylchgrawn ma - mae'n gret!

    JIM o Pontiets
    IESU MOWR, CHI DI CYMRYD YNG NGHERIAU MAS O'N NHEG, Y CHAVS! WEDI CAEL DIGON! WELL DONE I'R MERCHED AM DDWEUD Y BLWMIN GWIR!

    Ffan go fawr
    Rowan, rwyt ti'n sgwennu o'r galon!!! xx


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Lluniau
    Ffilmiau
    Digwyddiadau


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy