主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bach o Bopeth

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Logo Clwb Ffermwyr Ifanc Sbort y Steddfod!
Yn ystod Hydref 2005 cynhaliwyd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ieuainc Sir G芒r yn neuadd San Pedr, Caerfyrddin.
Yn 2005 Clwb Llanddarog ddaeth i'r brig gyda Capel Iwan yn ail. Cafwyd penwythnos llwyddiannus, yn llawn bwrlwm ac roedd yn hyfryd gweld nifer o aelodau'n cystadlu ar y llwyfan a'r safon yn amlwg yn codi'n flynyddol.

Cynhaliwyd nifer o wahanol gystadlaethau dros y ddwy noson yn cynnwys rhai ar y llwyfan a chystadlaethau gwaith cartref. Ymhlith y rhain oedd unawdau, llefaru, deuawd ddoniol, meimio i gerddoriaeth ac i gloi'r eisteddfod, cystadleuaeth y c么r. Yna yn yr adran gwaith cartref - cystadlaethau megis limrig, brawddeg, monolog a chywaith clwb.

Dyma rai o'r aelodau yn s么n am eu profiadau

Robert Thomas, C.Ff.I. San Pedr- Enillydd Llefaru dan 16
"Pan wnes i glywed mod i wedi ennill y gystadleuaeth, roeddwn i'n falch iawn. Eleni yw'r flwyddyn gyntaf i mi gystadlu yn Eisteddfod y Clybiau Ffermwyr Ieuainc, ac rwy'n disgwl ymlaen i fynd i Ynys M么n i gynrychioli Clwb San Pedr a Sir Gaerfyrddin.

Nathan Ifans, C.Ff.I. Pen-y-bont
Roeddwn yn cystadlu yn y sgets, dawnsio gwerin, bwletin newyddion, meim, c么r a chywaith clwb. Doedd dim dala n么l ar y llwyfan. Ges i amser ffantastig. Nes i ennill cystadleuaeth y meim a chywaith clwb a dyw Ynys M么n ddim yn gwybod beth sy'n disgwyl nhw.

Angharad Lewis C.Ff.I San Pedr
Dyma'r tro cyntaf i mi gystadlu yn y 'steddfod. Wnes i fwynhau'r noson yn fawr iawn - lot o sbort!! Mae'r steddfod yn le da i gymdeithasu a chael hwyl gyda ffrindiau o bob oedran.

Alun Howells C.Ff.I Pen-y-bont
Roeddwn yn nerfus iawn ar y pryd, oherwydd pedwar practis gethon ni, ond ar 么l dawnsio am ychydig ar y llwyfan, joio oedd y gair.

Heledd Edwards C.Ff.I Dyffryn Tywi,
Dwy noson o hwyl a sbri oedd yr eisteddfod eleni. Roeddwn yn cystadlu yn y Parti Deulais a'r Parti Llefaru, ac roedd yn hyfryd cystadlu gydag aelodau eraill y clwb. Ar nos Sadwrn roeddwn hefyd yn cyfarch y bardd, yn seremoni'r cadeirio.

Teleri Jenkins C.Ff.I Cynwyl Elfed
Eleni mi fues i'n cystadlu yn y dawnsio gwerin, yn chwarae'r tamborin ac yn y parti llefaru - cawsom drydydd yn y ddau. Gwnaeth y clwb yn dda iawn eleni wrth i ni gael pedwerydd safle yn yr eisteddfod.

Buddug Howells, C.Ff.I. Pen- y- bont
Wel, mi wnes i gystadlu yn yr ensemble, y parti deulais a'r c么r. Ond dechreues i boeni yn fawr iawn pan sylweddolais fod fy nhrwyn yn gwaedu cyn canu yn yr ensemble. Wrth lwc erbyn i mi gyrraedd y llwyfan roedd popeth yn iawn. Penwythnos i'w gofio.

Pob lwc i bawb a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod C.FF.I Cymru yn Sir F么n ar Dachwedd 18, 2005.

Gan: Heledd Edwards a Carys Bowen

Cliciwch yma i weld lluniau a holl ganlyniadau Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc ym Mhontrhydfendigaid a gynhaliwyd yn Rhagfyr 2006.


Cyfrannwch

naomi o crymych
da iawn pawb am cystadleuaeth 2007 edrych yn gret lol........
Wed Jan 30 18:52:47 2008

Dewi jenkins . Talybont .
Shwmai de . Llongyfyrchiadau i bawb yn yr eisteddfod.
Thu Dec 14 13:17:59 2006

Tristan J Thomas
yn ol lle yr oeddwn ni yn gweithio efor golau a sain roedd clwb pen y bont a Capel Iwan yn DDa dros ben llawer o waith dysgu wedi bod i gyraedd y eisteddfod Ieuainc Sir G芒r yn neuadd San Pedr, Caerfyrddin.
Tue May 30 16:57:46 2006

Inz a Elz o Penybont
wipdidwwwwwwwwwwwwww! Oedd Ynys Mon yn "fabulous darling" Llongyfarchiadau i bawb. Bring on 2006!!!! xxxxx
Mon Dec 19 09:39:51 2005

Llinos D.T!
Steddfod M么n yn wicked! Trueni am y rhaglen ar teledu nithwr tho'! Dim wedi dangos cwarter y talent c da'r yfc.
Sat Dec 10 22:04:15 2005

Angharad C.Ff.I Dyffryn Tywi
Roedd yr steddfod yn gret pawb yn rili bril!! Steddfod Mon nawr nesa maethu aros!! Wela'i chi gyd na!!
Thu Nov 24 12:23:15 2005

Chunk-Penybont!
Ynys mon d bod yn laugh-trenu bod y bar d cau-bydde fe d bod yn well wedyn!!!! da iawn pawb!
Wed Nov 23 15:01:13 2005

Alaw
Hey guys!Ynys Mon yn ausome. tisio lobscows? pawb d joio!gwely am 7.30am! alaw.xxx
Wed Nov 23 12:14:37 2005

*Fannyanne* a *Kate*
wel...chunk! Joiest t nos sadwrn???
Wed Nov 23 11:34:01 2005

Buddug Davies o Pontsian
Roedd yr eisteddfod yn gret joio mas draw --x--
Mon Nov 21 16:29:05 2005

Joanne o YFC CYNWYL ELFED!!!!
WEL...na beth odd weekend WILD!Da iawn i arwel a alaw am ddod yn 3ydd!!!!chi'n deservo fe!!!caru chi LOTS xxx
Mon Nov 21 14:51:48 2005

Caz a Telz!!
Hiya!! Roedd Ynys Mon yn great laugh!Chware cards am 5.30am! Syrthio allan o gwely! Gweld trapeze act Dylan Bows dros gweliau! Deuawd doniol Cynwyl yn amazing! Trueni bo bar di cau mor gynar tho! C ya! x x
Mon Nov 21 11:19:13 2005

Fannyanne o CFFI CYNWYL ELFED!!!
Gweld chi mewn 24awr!! Pob Lwc i Alaw a Arwel yn y deuawd ddoniol!!!chi'n FFAB!
Fri Nov 18 11:28:35 2005

BuDDuG MArI
Wweeeheey! Ni'n mynd i sir F么n FORY! V ddim yn gallu aros!!!! A v jsd moen gweud ma pawb sydd wedi gwisgo lan yn ysgol Bro Myrddin heddi (Diwrnod Plant Mewn Angen) yn edrych yn GREAT! (Vic ti'n brilliant)!
Fri Nov 18 09:36:23 2005

Dylan Bowz
Helo Ferched shwd mae? Ma'r dudalen hyn yn dda, da iawn chi ferched, ond ma tudalen Teleri a Ffion ar rygbi hyd yn oed yn well!!!! Welwn ni chi lan yn ynys Mon byddai wrth ymyl y bar!!!!!
Thu Nov 10 11:53:48 2005

Buddug Howells
Dwi ddim yn gallu aros nes mynd i sir f么n....dylse fe fod yn gwd laff!!!! Wedd y steddfod sir yn amazing! Disgwl mlan i weld chi yn Sir F么n.
Thu Nov 10 10:35:16 2005

Miss Jameson o C.FF.I PENYBONT!!!!
Helo. Waw Penybont! Blwyddyn arall anhygoel! Da iawn i bawb a gafodd lwyddiant. Edrych ymlaen i weld pawb yn Ynys M么n! Pob lwc i'r meim a chywaith y clwb. Number 1! Hwyl a flag!
Thu Nov 10 10:20:36 2005

Elin Wyn Williams o San Cler
Llongyfarchiadau i Indeg Jameson yn dod yn ail yn yr adrodd, trydydd yn y sgets ddoniol, trydydd yn y Parti Lleisiol ag ail yn y cor. Ac i bawb arall a wnaeth gystadlu.
Thu Nov 10 10:03:35 2005

The Real Bows - CFFI Capel Iwan
I ddechre, nid fi ysgrifennodd y neges cynta na, dwi ddim yn trial dawnsio gwerin a wdw wi'n canu - mas o diwn! Gelon ni amser da yn yr Eisteddfod sir a gobitho bydd Eisteddfod M么n cystel!
Wed Nov 9 19:42:57 2005

Dylan Bowz!!! o Pant y Bwlch
Fi oedd un o'r prif leisiau yn y c么r a ddaeth yn 1af, edrych ymlaen i gael eich gweld chi yn ynys M么n.
Tue Nov 8 11:33:40 2005

Bro Myrddin
Helo Carys Bowz a Heledd Edz!!! Da iawn Cynwyl clywed bod chi`n gret, safon uchel o berfformio, ond ddim mor dda 芒 Capel Iwan beth bynnag! Edrych mlan am seshwn yn ynys M么n - welwn ni chi na!!
Tue Nov 8 11:25:59 2005

Joanne Evans
Roedd yr eisteddfod yn WYCH, dydw i ddim yn gallu aros tan Ynys Mon!!!!!!
Mon Nov 7 15:16:36 2005

ffion nuta!!! capel iwan!!
da iawn i capel iwan!! danso disco di mynd yn gret da ni!!(catrin blondie, teleri,marged a catrin cwrli!)
Mon Nov 7 13:37:28 2005

Angharad
Llongyfarchiade i Heledd a Carys - ma'ch tudalen chi'n gret!!!
Sat Nov 5 23:06:43 2005


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Lluniau
Ffilmiau
Digwyddiadau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy