Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bach o Bopeth

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Masg Perfformwyr Sir Gâr
Un peth sy'n diddori nifer o bobl ifanc ein Sir ni yw... perfformio!
  • Lluniau: Sioe Les Miserables, Mehefin 2005
  • Lluniau: Sioe Tra Bo Dau, Ebrill 2006

    A bwriad yr erthygl fer hon yw sôn am lwyddiannau nifer o wahanol berfformiadau, gweithdai a phrosiectau sydd ar gael i bobl fel ni yn y Sir, a gwybodaeth ynglyn â sut i ymuno.

    Un cwmni amlwg yn Sir Gaerfyrddin yw 'Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi', a gynhelir yng Ngholeg Y Drindod dan arweiniad Delyth Mai Nicholas. Sefydlwyd yr ysgol yn 2001, ac erbyn hyn mae dros 80 o aelodau o nifer o ysgolion ar draws y sir!

    Rhennir yr ysgol i dri grŵp fel arfer sef o dan 12 oed, rhwng 12 a 15 ac o dan 18 oed.

    Drwy'r Ysgol Berfformio, mae 'na bob math o gyfleoedd; cyfle i actio, cyfle i ganu, cyfle i ddawnsio - unrhyw agwedd o berfformio - cyfle i gael clyweliadau i raglenni teledu, ac yn fwy na dim, cwrdd â ffrindiau newydd sy'n rhannu'r un peth â chi, sef cariad at berfformio.

    Elen Morgan yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol  Casnewydd 2004Llongyfarchiadau mawr i Elen Morgan o'r Ysgol am gael rhan yng nghast Pobol y Cwm.

    Drwy'r Ysgol, dwi 'di cael llawer iawn o gyfleoedd i actio ar lwyfannau'r brifwyl, gan fod yn llwyddiannus iawn, cystadlu yn yr Å´yl Gerdd Dant, mynychu cyrsiau, er enghraifft: 'Prosiect LLAIS' gydag aelodau o Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnal y sesiynau.

    Yn ogystal â chael cyfle i berfformio nifer o sioeau, er engrhaifft: 'Yn Gymaint ag y Gwnaethoch', gwaith byrfyfyr, 'Amranwen' - sioe gerdd gan Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood, "Jac Tŷ Isha" a gafodd ei pherfformio gan yr ysgol yn Theatr y Lyric llynedd, ac eleni buom yn gweithio ar y sioe gerdd 'Oliver', a lwyfannwyd yn Theatr y Lyric ddiwedd mis Hydref eleni.

    Drwy wneud sioeau fel hyn, mae'n gyfle i'r dosbarthiadau i gyd ddod at ei gilydd i fwynhau'r profiad o ymarfer a pherfformio sioe gyda chyfarwyddwyr a thîm proffesiynol.

    Adran iau yr ysgol ddramaBu adran Iau'r Ysgol yn brysur iawn hefyd yn cyflwyno sioeau fel 'Stryd yr Aros' a 'Cip ar y Cymry'.

    Bu cystadlu yn yr Urdd hefyd dros y blynyddoedd, gan ennill y wobr gyntaf, a'r ail wobr yng nghystadleuaeth y ddrama yn 2004. Eleni bu cystadlu brwd yn yr ymgomau, (gyda'r ymgon hŷn yn ennill yr ail wobr yn y brifwyl), dawnsio creadigol, cân actol, a nifer o eitemau unigol.

    Llongyfarchiadau i Robert Thomas o'r Ysgol am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y llefaru unigol.

    Yn ogystal â holl lwyddiannau'r Ysgol ar lwyfannau'r brifwyl, fe enillodd yr Ysgol y wobr gyntaf yn y categori Prosiect Ieuenctid yn Noson Wobrwyo Grantiau Cymunedol Sir Gaerfyrddin am ei chynhyrchiad o'r opera roc Jac Tŷ Isha, yn seiliedig ar hanes Merched Beca.

    Perfformiad o les MiserablesDrwy'r Ysgol Berfformio, fe gefais i, a nifer o fy ffrindiau o'r ysgol gyfle i fynd am glyweliad 'Theatr Ieuenctid yr Urdd' oedd yn mynd i berfformio Les Miserables' ar lwyfan enfawr Canolfan y Mileniwm yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd. Yn ffodus, buom i gyd yn llwyddiannus, ac yr oedd yn brofiad hynod, hynod fythgofiadwy.

    Roedd perfformio ar lwyfan mor fawr yn brofiad arbennig, ac er bod yr ymarferion a'r perfformiadau yng nghanol arholiadau TGAU ac UG, roedd yr holl waith a'r ymdrech yn werth pob awr o ymarfer, ac ar y noson, roedd y gynulleidfa yn y theatr (a oedd yn orlawn) wedi'i phlesio'n fawr.

    Cawsom gyfle i wneud ffrindiau newydd o bob cwr o Gymru, ac rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad. Yn ogystal â hyn, cawsom gyfle i fod yn rhan o sioe agoriadol yr Eisteddfod 'Sain, Cerdd a Sioe', gyda Cefin Roberts yn cyfarwyddo, a chyfle i rannu llwyfan gyda rhai o sêr ifanc Cymru, tair ohonynt yn hannu o Gaerfyrddin, sef: Catherine Ayers, Elin Llwys a Rhian Mair Lewis - y dair yn gyn ddisgyblion o Ysgol Gyfun Bro Myrddin.

    Profiad hollol ffantastig a bythgofiadwy!! Am fanylion ynglyn â sut i ddod yn aelod o'r Ysgol Berfformio, - cysylltwch â Delyth Mai Nicholas yng Ngholeg Y Drindod, Caerfyrddin.

    Hanna HopwoodGan: Hanna Hopwood


  • Cyfrannwch

    Lisa Marged o Nantycaws
    Hei, Han falle bydd hwn yn ateb 'jac!' Wi'n aelod o Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth, sy'n cael ei gynnal bob nos Fercher 7-9pm yn Neuadd Pontyberem. Newydd gyflwyno sioe llwyddiannus 'Tra Bo Dau' ac yn ei gyflwyno unwaith yn rhagor yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r theatr yn cynnig cyfleoedd gwych, mae Iwan wedi cael rhan addawol ar Pobol y Cwm, mae 6 ohonom wedi cael ein dewis i berfformio rhaglen newydd sy'n cychwyn mis yma a llawer mwy.Mae bod yn aelod o'r theatr yn gyfle i gwrdd â phobl newydd ac yn llawn hwyl a sbri!!!!!!!see you son HanXXXX

  • Cliciwch yma i weld lluniau o aelodau Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth yn perfformio 'Tra Bo Dau'.
  • jac
    Rwy'n credu bod hwn yn erthygl sy'n dangos cryfderau ysgol berfformio dyffryn tywi, beth am y grwpiau perfformio eraill ar hyd y sir?

    Ysgrifenwyd yr erthygl hon gan rai o aelodau Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi, fel rhan o gylchgrawn ar-lein Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Mae pob croeso i unrhywun anfon erthyglau neu wybodaeth am ysgolion perfformio eraill yr ardal aton ni, ac mi wnawn eu harddangos ar y safle hwn. Cysylltwch trwy e-bostio deorllewin@bbc.co.uk

    Cymraes
    Ble mae'r nifer o grwpiau ifanc arall perfformio y sir??? O ie nawr rwy'n cofio nid yw nhw ddigon cymraeg i fod ar yr wefan hyn?!?!

    Mae croeso i bobol i anfon gwybodaeth aton ni am grwpiau perfformio eraill y sir. Gallwn naill ai roi sylw iddyn nhw ar y safle Gymraeg hon, neu ar ein safle leol Saesneg ei hiaith y Ö÷²¥´óÐã sef 'Where I Live' South West Wales.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Lluniau
    Ffilmiau
    Digwyddiadau


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý