主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bach o Bopeth

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tangwystl Holi Tangwystl
Siwan Williams bu'n holi Si么n Iorwerth o'r gr诺p Tangwystl.
骋谤诺辫:
Tangwystl

Enw:
Si么n Iorwerth, fi yw'r canwr ac rwy'n chwarae'r sacsoffon.

Bwriad:
Creu cerddoriaeth gyfoes, unigryw a chyffrous.

Dylanwadau:
Mae gennym ni nifer o ddylanwadau gwahanol, rydw i'n ffan mawr o Serge Gainsbourg, Ffrancwr oedd yn chwarae'r piano mewn 'ffilmiau tawel'. Rwyf hefyd yn hoff iawn o gerddoriaeth Jazz, un o fy arwyr yw Miles Davies, yn ogystal 芒 phob math o gantorion gwahanol o'r Velvet Underground i gerddoriaeth gyfoes fel y Strokes, y Libertines a Shania Twain.

Disgrifia'r gerddoriaeth:
Sai'n hoffi rhoi "label" ar ein cerddoriaeth, baswn i ddim yn si诺r sut i'w rhoi mewn categori. Mae Gruff sy'n chwarae'r git芒r flaen yn hoff iawn o gerddoriaeth Led Zeppelin ac felly chi'n cael y solos hir a diflas (sh!!!). Ma' Ceri'r drymiwr yn dod 芒 dylanwad reggae i'r curiad, a Dave sy'n chwarae'r bas yn defnyddio nodau cyflym fel y ceir mewn cerddoriaeth pync. Dwi jest yn sefyll yno'n canu'n swynol ac yn cynnig rhywbeth bach ychwanegol gyda'r sacsoffon.

Sut wyt ti'n paratoi cyn perfformio/ mynd ar lwyfan?
Rydym ni i gyd yn hoff o wrando ar seithfed symffoni Beethoven, mae'n helpu ni i ymlacio a chanolbwyntio.

Tangwystl yn perfformioRydych chi wedi llwyddo i godi proffil eitha' da yn y s卯n roc Gymraeg, ac yn sydyn iawn, sut?
Yn gyntaf, roedden ni wedi ennill cystadleuaeth brwydr y bandiau'n lleol, ac wedi llwyddo mynd i'r rownd derfynol yn yr Eisteddfod eleni. Ers hynny rydym wedi chwarae gyda Bob Delyn a'r Ebillion, Mattoidz, Ashokan, ac mae'r rhestr yn cynyddu. Ymhen rhyw wythnos neu ddwy, rydym ni'n cael ein recordio ar "Radio 1 sessions in Wales" gyda Bethan a Huw.

Cyffrous iawn, rydych wedi cael llwyddiant yn go sydyn.
Rydym wedi bod yn lwcus, ac yn gobeithio byddwn yn mynd o nerth i nerth! Rydym wedi recordio demo gyda' wyth c芒n, o'r enw "Sdim solos mewn hip hop..." ac wedi gwerthu eitha' lot.

Oes gyda ti unrhyw gyngor i bobl ifanc Cymru sy'n dyheu am fod mewn band?
Ewch amdani, mae'n lot o hwyl, ac yn hybu'ch hyder os ydych unrhyw beth fel oeddwn i gynt.

Cyfweliad gan Siwan Williams

Beth yw eich barn am y band? Rhowch eich sylwadau isod.


Cyfrannwch

merched bl 10
ni caru ti wwww rock on!xxx nin caru tangwystl aaaahhh

Gwiz a soph
vin meddwl bod ti'n reil sexy a popeth (sion hynny yw lol) licwn ni gweld mwy ohonot yn canu yn ysgol. xx

Huw Parry May Pole
BRIll 'DE!!!! mae'r canwr efo trwyn mor ddel!

Owain Hedd
Fi, yw brenin y byd, ac rydw i'n gweud bod tangwystl yn berffaith. Mae Gruffydd yn enwedig yn berffaith.

Steffan Wyn Henri
Peth gorau fi di gweld ers mynd i'r steddfod a gweld perfformiadau yn y pafiliwn. Gwych fechgyn.....gwych. xxx


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Lluniau
Ffilmiau
Digwyddiadau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy