主播大秀

Grav - Ray o'r Mynydd

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Atgofion o'r bywyd Ray Gravell yn dilyn ei farwolaeth yn 2007.

Darn o raglen ddogfen arbennig yn coff谩u'r chwaraewr rygbi Ray Gravell a fu farw ar y 31ain o Hydref 2007, sy'n dechrau gyda silw茅t. Gwelir nifer o enwogion yn s么n am wahanol agweddau ar fywyd 'Grav' yn Gymraeg ac yn Saesneg. Clywn droslais yn rhoi ei gefndir cynnar a 'Grav' ei hun yn s么n am ei dad.
O: Grav - Ray o'r Mynydd
Darlledwyd yn gyntaf : 13 Tachwedd 2007

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Astudiaethau Cyfryngau

Testun : Arddull ddogfen

Allweddeiriau : Dogfennu digwyddiad tyngedfennol, Ray Gravell, Grav, Cynrychiolaeth Cymru, Cyd-destun hanesyddol

Nodiadau : 1)Dadansoddi'r dilyniant o safbwynt codau a chonfensiynau genre rhaglenni dogfen; troslais,arbennigwyr yn siarad, hen ffotograffau a darnau o ffilm, ffilmio'r presennol ac yn y blaen. 2) Rhestru trefn y nodweddion hyn a sut y mae'n symud yn 么l a mlaen o un peth i'r llall. Sut y mae wedi ei olygu? 3) Dadansoddi'r sotiau a gwaith camera. 4) Nodi'r holl eiconograffeg Cymreig sydd yno, y pethau rydym yn gweld neu glywed sydd yn dweud 'Cymru' wrthym. Dadansoddi'r sain; pa sain sy'n gynefin a pha sain sy'n anghynefin? Sut y mae'r awyrgylch yn cael ei greu drwy'r sain? 5) Cynllunio erthygl ar gyfer 'Golwg' yn rhoi beirniadaeth am y rhaglen. 6) Cynllunio poster ystrydebol o Gymru neu o wlad arall. 7) Dewis arwr/arwr Cymreig; ymchwilio'r genre yn bellach ac ymchwilio cynulleidfa a fyddai'n debygol o wylio. Cynllunio rhaglen ddogfen er clod i'r person hwnnw (nid angladd) 8) Ymchwilio amserlenni i weld pryd y darlledir rhaglenni dogfen. Pryd fyddai'r amser / dydd gorau i ddarlledu eu rhaglen nhw? 9) Cynllunio a storifyrddio rhaglun i hysbysebu'r rhaglen. 10) Cynllunio cyfres o bosteri i hysbysebu'r rhaglen - ble y byddent yn gosod y posteri hyn? Pam?


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.