Ö÷²¥´óÐã

Brit a Sion

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Britt yn gorfod mynd i'r gwaith yn annisgwyl. Rhaid trefnu gofal plant.

Darlun o fywyd teuluol. Cwpl - Siôn a Brit - yn ceisio trefnu gofal plant trwy gydbwyso bywyd gwaith a bywyd teuluol. Mae Brit yn derbyn galwad ffôn oddi wrth ei waith yn gofyn hi i fynd i mewn. Ond pwy fydd yn gofalu dros y plant? Siôn braidd yn araf yn cynnig helpu - ond yn gwneud yn y diwedd.
O: Pobol y Cwm
Darlledwyd yn gyntaf : 7 Ebrill 2009

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Cymdeithaseg

Testun : Cymuned a ddiwylliant

Allweddeiriau : Teulu cnewyllol, Teulu gyrfa deuol, Pobol y Cwm, Rolau rhywedd, Rolau teuluol, Teuluoedd, Teuluoedd a diwylliant, Baich triphlyg

Nodiadau : PYNCIAU TRAFOD • Beth yw'r problemau sy'n gallu wynebu mamau i blant ifanc sy'n gweithio? • Pa nodweddion o rolau rhywedd traddodiadol sydd i'w gweld yn y clip? • Oes arwydd o rolau mwy modern? • Trafodwch effeithiau posib cael dau riant sy'n gweithio ar blant ifanc.• Pwy sy'n cymryd y cyfrifoldeb dros drefnu'r gofal plant? Beth mae hyn yn awgrymu? GWAITH ESTYNEDIG • Byddai rhai cymdeithasegwyr yn dadlau bod gan fenywod faich deuol neu faich triphlyg. Beth yw ystyr y termau hyn? • Ymchwiliwch i ddarganfod faint o fenywod sydd â phlant ifanc sy'n gweithio. Pa fath o gytundeb gwaith sydd ganddynt? Sut mae'r ffigyrau wedi newid ers 60 o flynyddoedd? • Ymchwiliwch i ddarganfod sut mae rôl tadau wedi newid. ADOLYGU • Aseswch effaith mamau sy'n gweithio ar fywyd teuluol. • Trafodwch ffactorau sydd wedi dylanwadu ar rôl tadau yn ystod y 50 mlynedd diweddaf. • Nodwch sut mae'r berthynas rhwng rhieni a phlant wedi newid. Esboniwch y rhesymau cymdeithasegol am y newidiadau hyn.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.