Ö÷²¥´óÐã

Gofalu am Wil

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Sheryl a Darren yn trafod trefniadau byw Wil yn dilyn eu gwahaniad.

Mae Sheryl a Darren wedi gwahanu. Maen nhw'n penderfynu cwrdd er mwyn cheisio cytuno ynglŷn â threfniadau ddyfodol gofal eu mab, Wil, wedi iddynt ysgaru. Mae'n troi mewn i ddadl ac maent yn cael trafferth i gytuno.
O: Pobol y Cwm
Darlledwyd yn gyntaf : 8 Medi 2004

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Cymdeithaseg

Testun : Cymuned a ddiwylliant

Allweddeiriau : Tor-priodas, Gwahanu, Cyd-fagu, Rolau teuluol, Pobol y Cwm, Gwrthdaro rôl, Teuluoedd, Teuluoedd a diwylliant,

Nodiadau : PYNCIAU TRAFOD • Pwy sy'n ymddangos fel y prif ofalwr yn y clip? Pam? • Mae'r Ddeddf Plant yn datgan bod rhaid gwrando ar ddymuniad y plentyn pan fo rhieni yn ysgaru. Ydych chi'n cytuno? • Trafodwch, gan ddefnyddio rhesymau cymdeithasegol, pam fod cymaint o briodasau yn diweddu mewn ysgariad. GWAITH ESTYNEDIG • Casglwch ffeithiau am y newid i gyfraddau ysgaru ers 1950. Sicrhau eich bod yn gallu diffinio'r term cyfradd ysgaru a nodi sut mae'r patrwm wedi newid. • Nodwch brif bwyntiau'r Ddeddf Diwygio Ysgariad, 1969.• Mae'r clip yn awgrymu gall mamgu Wil ofalu amdano. Ymchwiliwch i ddarganfod faint o gymorth mae mamgu a/neu dadcu (nain a thaid) yn rhoi i deuluoedd heddiw. ADOLYGU • Trafodwch ddau ffactor sydd wedi dylanwadu ar y cyfraddau ysgaru ers y 70au. • Mae'r broses o rieni yn ysgaru bob amser yn cael dylanwad gwael ar y plant. Trafodwch. • Cymharwch farn y ffeministiaid a'r Dde Newydd am ysgariad.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.