Ö÷²¥´óÐã

Trideg Rhywbeth

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Newid yn y gymdeithas - tuedd i bobl i fyw ar eu pen eu hunain.

Edrychir ar y duedd gynyddol i bobl fod yn sengl ac i fyw ar eu pen eu hunain. Criw o ddynion ifanc yn trafod eu bywydau - y mwyafrif yn sengl ac yn eu tridegau.
O: O Flaen dy Lygaid - Trideg Rhywbeth
Darlledwyd yn gyntaf : 20 Mawrth 2003

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Cymdeithaseg

Testun : Cymuned a ddiwylliant

Allweddeiriau : Newid cymdeithasol, Lluniad cymdeithasol, Rolau rhywedd , Teuluoedd, Bywyd sengl, Grŵp cyfoed

Nodiadau : PYNCIAU TRAFOD • Sut mae'r dynion yn y clip yn wahanol i'r syniad traddodiadol o 'ddynion' tri deg mlwydd oed? • Pa newidiadau cymdeithasol sydd wedi arwain at fwy o bobl yn dewis byw ar eu pen eu hunain? • Sut mae agwedd y gymdeithas wedi newid tuag at bobl sengl? - meddyliwch am arwyddocâd dywediadau megis 'on the shelf''neu hen ferch ('old maid'). GWAITH ESTYNEDIG • Edrychwch am ddau ffigwr sy'n dangos fod mwy o bobl yn byw ar eu pen eu hunain heddiw. Cymharwch gyda'r 60au. • Pa grwpiau o bobl sydd fwyaf tebygol o fyw ar eu pen eu hunain? Defnyddiwch dystiolaeth gymdeithasegol i gefnogi eich ateb. ADOLYGU • Nodwch ac esboniwch 2 reswm cymdeithasegol am y cynnydd mewn pobl ifanc sengl. • Beth fyddai barn : a) y Dde Newydd b) ffeministiaid am y cynnydd mewn pobl sengl?


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.