Ö÷²¥´óÐã

Gwyliadwriaeth

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Disgrifiad o gynllun cymunedol mewn cysylltiad â'r heddlu

Cyflwyniad byr i ymgais rhai trigolion i leihau trosedd yn eu cymuned ym Mhenygroes trwy ddefnydd o gamerâu CCTV. Gyda chyfweliadau gyda thrigolion yn egluro pam oedd angen CCTV yn eu cymuned nhw.
O: O Flaen dy Lygaid - Gwlad y Menyg Gwynion
Darlledwyd yn gyntaf : 24 Mai 2005

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Cymdeithaseg

Testun : Cymuned a ddiwylliant

Allweddeiriau : Trosedd, Trosedd a gwyredd, Deall trosedd, Rheolaeth yn y gymuned, CCTV, Rheolaeth gymdeithasol,Sgwâr trosedd

Nodiadau : PYNCIAU TRAFOD • A ydych chi yn ymwybodol o gael eich gwylio yn y gymuned? Ble? Sut mae'n gwneud i chi deimlo? • Pam fod rhai pobl yn credu bod gormod o wyliadwriaeth yn fygythiol ac yn ymyrraeth? GWAITH ESTYNEDIG • Ceisiwch ddarganfod tystiolaeth o ddefnyddioldeb 'gwylio' pobl gyda chamerâu CCTV. • Ymchwiliwch i'r math o ddedfrydau sy'n cael eu defnyddio yn y DU. • Edrychwch am hanesion o bobl yn cael eu dal drwy ddefnyddio CCTV. ADOLYGU • Esboniwch sut mae'r clip yn cefnogi syniadau Realaeth Dde am drosedd a rheolaeth. • Beth a olygir gan sgwâr trosedd?


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.