主播大秀

Boddi Pentref

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Pentref o dan y d诺r - model i atgoffa'r gwyliwr o foddi Capel Celyn ym 1965.

Ffilm o bentref wedi'i foddi. Yr honiad yw ei fod yn fodel a adeiladwyd mewn stiwdio teledu er mwyn cofio boddi pentref Capel Celyn yn ardal y Bala ym 1965. Boddwyd y pentref hwn a'r cwm o'i gwmpas gan Gyngor Dinas Lerpwl er mwyn adeiladu cronfa dd诺r Tryweryn (er gwaethaf protestiadau mawr yng Nghymru ar y pryd). Cyn boddi Capel Celyn, chwalwyd yr adeiladau i'r llawr a symudwyd y fynwent i ardal arall, felly mae'r ffilm yn gamarweiniol i raddau. Mae wedi'i chynnwys yma am ei bod yn codi ymateb emosiynol gan y gwyliwr, sy'n adlewyrchu teimladau cyn-bentrefwyr Capel Celyn.
O: The Celts The Final Conflict
Darlledwyd yn gyntaf : 11 Mehefin 1987

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14

Pwnc : Hanes, Cymraeg i Ddysgwyr Uwch, Cymraeg Mamiaith, Cymraeg Ail Iaith

Testun : Cymru a Phrydain fodern, Cymru a Phrydain fodern, Digwyddiadau hanesyddol, Yr iaith Gymraeg, Ffurfio cenedl, Digwyddiadau hanesyddol, Yr iaith Gymraeg

Allweddeiriau : Tryweryn, Hanes yr iaith Gymraeg, Rhyfel a gwrthdaro, Gwleidyddiaeth, Capel Celyn

Nodiadau : Gellir defnyddio'r clip wrth wneud gwaith ar hanes boddi ardaloedd Cymru i greu cronfeydd d诺r, e.e. Llyn Fynwy, Tryweryn etc. Astudio'r hanes Tryweryn rhwng 1956 a 1965. Trafod pam mae'r achos yr un mor bwysig yn hanes diweddar Cymru.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.