主播大秀

Byw gyda Pheryglon: Darganfod Adnoddau mewn Mannau Peryglus

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Mwyngloddwyr yn mentro'u bywydau ar Ynys Java.

Mae 42 o losgfynyddoedd ar Ynys Java yn Indonesia. Ar ochr ddwyreiniol yr ynys mae Llosgfynydd Ijen, un o'r mannau mwyaf gwenwynig ar y Ddaear. Yng nghanol y crater mae llyn sy'n cynnwys dwy filiwn a hanner o dunelli o asid. Er gwaetha'r amgylchedd, mae pobl yn mentro'u bywydau er mwyn cloddio'r mwyn sylffwr sy'n hanfodol ar gyfer cynhyrchu rwber, cemegion a ffrwydron. Mwyngloddwyr sylffwr ydy Hartomo a Sulaiman. Mae'r ddau yn gweithio y tu mewn i grater llosgfynydd byw. Maen nhw'n fodlon mentro fel hyn er mwyn ennill llawer mwy o arian na phe bydden nhw'n gwneud gwaith lleol arall.
O: Human Planet Mountains - Life in Thin Air
Darlledwyd yn gyntaf : 10 Chwefror 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 7-9,9-11

Pwnc : Daearyddiaeth

Testun : Ardal gyferbyniol, Gweithgaredd economaidd, Ecosystemau, Adnoddau cynaliadwy

Allweddeiriau : Mynyddoedd, Y Byd Ehangach, Java

Nodiadau : Cyn gwylio'r clip gallai'r disgyblion ymchwilio i beth yw llosgfynydd a sut mae'n cael ei ffurfio. Ymholiad Gwyddoniaeth - cynnal arbrawf i ddangos sut mae cymysgu gwahanol gemegion yn gallu achosi ffrwydrad 'folcanig'. Gan ddefnyddio rhaff i greu dwy garfan (cytuno ac anghytuno), gallai'r disgyblion benderfynu a fydden nhw'n cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau peryglus y bydd yr athro neu athrawes yn eu disgrifio, e.e. 'byddwn i'n fodlon mentro cerdded dros bont sydd wedi torri'; 'byddwn i'n fodlon mentro cerdded dros bont sydd wedi torri petai t芒n ar y pen yma i'r bont', ac ati. Ar 么l gwylio'r clip gallai'r disgyblion ymchwilio i'r mathau o swyddi eraill fyddai ar gael i'r mwyngloddwyr sylffwr yn Nwyrain Java, a faint fyddai'r cyflog. Gallech arwain trafodaeth dosbarth ar pam mae'r dynion yn dewis gwneud y gwaith peryglus yma ac a oes ganddyn nhw ddewis mewn gwirionedd.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.