主播大秀

Porfeydd Cynaliadwy: Ffermio Cynaliadwy

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Defnydd hofrenyddion ar ffermydd gwartheg Awstralia.

Mae Ben Tapp yn berchennog ransh wartheg anferth ym mherfeddwlad Awstralia. Trwy adael i'w wartheg grwydro'n rhydd o borfa i borfa'n chwilio am laswellt ffres, mae Ben yn ffermio'n gynaliadwy. Pan ddaw'r tymor mwstro, rhaid casglu ynghyd wartheg fydd wedi crwydro dros gannoedd o erwau - mae hyn yn her aruthrol. Y dull modern o'u casglu yw trwy ddefnyddio hofrenyddion. O uchder yn yr awyr gall y peilot weld y gwartheg yn hawdd ond rhaid bod yn ofalus iawn - gallai eiliad o ddiffyg canolbwyntio fod yn angheuol. Mae'r dull o gasglu gwartheg 芒 hofrenyddion wedi gweddnewid diwydiant cig eidion Awstralia, a galluogi'r wlad i barhau i ddiwallu'r galw mawr am y cig yn fyd-eang.
O: Human Planet Grasslands - Roots of Power
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Chwefror 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14

Pwnc : Daearyddiaeth

Testun : Gweithgaredd economaidd, Masnach

Allweddeiriau : Amaethyddiaeth a Diwydiant, Tiriogaeth y Gogledd, Awstralia,Glaswelltiroedd trofannol,Diwydiant gwartheg

Nodiadau : Dewch o hyd i leoliad Tiriogaeth y Gogledd ar fap. Mae'r lluniau yn dangos enghraifft ddefnyddiol o ffermio bugeiliol ar raddfa eang. Byddai'r clip yn gyflwyniad da i amgylcheddau, glaswelltiroedd a llystyfiant trofannol. Defnyddiwch y clip i gychwyn trafodaeth ar gynhyrchu bwyd ar raddfa eang, y galw am fwyd, a milltiroedd bwyd.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.