主播大秀

Dyfroedd Cynaliadwy: Pysgota Cynaliadwy

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Cymuned yn Indonesia yn dal morfilod gwynion.

Mae cymuned sy'n byw ar Ynys Lembata, Indonesia, yn dibynnu'r llwyr ar y m么r i ddarparu eu bwyd. Ym mhentref Lamalera maen nhw'n pysgota mewn dull syml, traddodiadol, sydd heb newid am flynyddoedd. Mae hi'n dymor hela morfilod ac mae'r pentrefwyr yn benderfynol o ddal morfilod gwyn sy'n mudo.Trwy ymdrech fawr mae eu taith bysgota'n llwyddiant ac ar ddiwedd brwydr hir a blinedig mae morfil gwyn wedi'i ddal. Dim ond tua chwe morfil gwyn y flwyddyn mae trigolion Lamalera yn ei ddal. Dyma beth yw pysgota cynaliadwy. Mae dal morfil yn gweddnewid bywyd y pentrefwyr, gan fod ei gig, ei esgyrn, ei groen a'i fraster yn gweithredu fel arian ar yr ynys bellennig hon.
Darlledwyd yn gyntaf : 13 Ionawr 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14

Pwnc : Daearyddiaeth

Testun : Materion amgylcheddol, Adnoddau cynaliadwy

Allweddeiriau : Pobl a'r amgylchedd, Lembata, Indonesia, Hela morfilod,Ecosystemau morol,Pysgota cynaliadwy

Nodiadau : Dewch o hyd i Ynys Lembata ar fap. Defnyddiwch y clip fel enghraifft o sut mae pobl yn rhyngweithio gydag ecosystem anferth a sut gallwn ni addasu i wahanol amgylcheddau. Gallai'r disgyblion ystyried beth allai ddigwydd i bobl Lamalera petai'r cyflenwad morfilod yn parhau i leihau. Cyflwyniad defnyddiol i gynaliadwyedd.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.