主播大秀

Byw mewn Lle Oer: Cystadlu am Dir

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Pobl Churchill wedi cynefino ag ymweliad blynyddol yr eirth gwynion.

Yng Nghanada, cafodd tref Churchill ei hadeiladu'n union ar draws llwybr mudo mae'r eirth gwynion wedi arfer ei ddefnyddio ers cyn cof. Bob blwyddyn, yn yr hydref, mae'r eirth gwynion yn cychwyn ar eu taith i'w tiroedd hela gaeafol allan ar rew y m么r ac mae'n rhaid iddyn nhw fynd trwy ganol y dref. Mae'r rhain yn anifeiliaid peryglus sy'n gallu hela pobl ac ymosod arnyn nhw ond, am fod yr eirth gwynion dan fygythiad, nid oes hawl i'w lladd. Felly, bu'n rhaid i drigolion Churchill weithio'n galed i sicrhau bod yr eirth yn cael eu hailgyfeirio'n ddiogel i'w llwybr tua'r m么r - a dyna gyfrifoldeb y Patr么l Eirth Gwynion.
O: Human Planet Arctic - Life in the Deep Freeze.
Darlledwyd yn gyntaf : 27 Ionawr 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 7-9,9-11

Pwnc : Daearyddiaeth

Testun : Hinsawdd, Ardal gyferbyniol, Materion amgylcheddol

Allweddeiriau : Bydoedd ehangach, Amgylchedd,Eirth gwynion, Canada,

Nodiadau : Cyn gwylio'r clip, chwaraewch g锚m y geiriadur - am y cyntaf i ddod o hyd i ystyr y gair mudo. Wedyn trafod 芒'r dosbarth pam mae anifeiliaid yn mudo.[ Gofynnwch i'r disgyblion lunio map meddwl o'r holl anifeiliaid y gallan nhw feddwl amdanyn nhw sydd dan fygythiad. Wedyn trafodwch ystyr yr ymadrodd 'dan fygythiad'. Rhowch i'r disgyblion y sefyllfa ganlynol i'w thrafod mewn grwpiau: 'Yng Nghanada cafodd tref Churchill ei hadeiladu'n union ar draws llwybr mudo mae'r eirth gwynion wedi arfer ei ddefnyddio ers cyn cof. Bob blwyddyn, yn yr hydref, mae'r eirth gwynion yn cychwyn ar eu taith i'w tiroedd hela gaeafol allan ar rew y m么r ac mae'n rhaid iddyn nhw fynd trwy ganol y dref. Mae'r rhain yn anifeiliaid peryglus sy'n gallu hela pobl ac ymosod arnyn nhw ond, am fod yr eirth gwynion dan fygythiad, nid oes hawl i'w lladd' Gofynnwch i'r disgyblion feddwl am ffyrdd i ddatrys y broblem. Gallai grwpiau rannu eu syniadau. Wedyn gwyliwch y clip a thrafodwch ai'r Patr么l Eirth Gwynion yw'r ateb gorau. Gallai'r disgyblion ymchwilio i enghreifftiau eraill o bobl ac anifeiliaid yn dysgu cyd-fyw. Ymholiad Gwyddoniaeth/Daearyddiaeth - y disgyblion yn ymchwilio i'r rheswm pam mae poblogaeth yr eirth gwynion yn lleihau. Rhowch ddata iddyn nhw sy'n dangos bod y byd yn twymo a beth yw effaith hynny ar yr Arctig. Gall y disgyblion ddefnyddio'r data i ysgrifennu ac actio adroddiad newyddion ar sail eu darganfyddiadau.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.