Ö÷²¥´óÐã

Byw heb Ddŵr: Defnyddio Sgiliau Hynafol

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Llwyth y Tubu yn rhoi sgiliau eu hynafiaid ar waith i gael dŵr.

Teithwyr y diffeithdir ydy pobl y Tubu. Bob blwyddyn bydd menywod y Tubu yn ymdopi â'r tirwedd cras, gan groesi'r diffeithdir sawl tro gyda'u camelod. Maen nhw'n teithio cannoedd o gilometrau ar draws y diffeithdir i gyrraedd trefi bach lle mae marchnadoedd a phrynwyr i'w nwyddau. Er mwyn gallu goroesi am gyfnodau maith yn y diffeithdir, rhaid i fenywod y Tubu ddod o hyd i ddŵr. Mae Foni a'i merch 10 oed Shede yn chwilio am ffynnon ddŵr yng nghanol y diffeithdir, a dim ond un metr sgwâr yw ei maint. Heb fap na chwmpawd, gall Foni lywio ei llwybr trwy'r diffeithdir - sgil a ddysgodd oddi wrth ei hynafiaid. Gall menywod y Tubu ddilyn copaon y twyni tywod i'w helpu i benderfynu ym mha gyfeiriad i deithio.
O: Human Planet Deserts - Life in the Furnace
Darlledwyd yn gyntaf : 20 Ionawr 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 7-9,9-11,14-16

Pwnc : Daearyddiaeth, Cymdeithaseg

Testun : Hinsawdd, Gweithgaredd economaidd, Ecosystemau, Masnach, Cymuned a ddiwylliant

Allweddeiriau : Dŵr, Diwylliant, Diffeithiwch Sahara, Tubu, Diwylliant a chymdeithasoli, Cymdeithaseg byd-eang

Nodiadau : DAEARYDDIAETH:Cyn gwylio'r clip gofynnwch i'r disgyblion ddychmygu eu bod yn paratoi ar gyfer taith o 1500 km, a gofynnwch iddyn nhw restru'r cyfarpar maen nhw'n credu y bydd ei angen arnyn nhw yn ystod y daith. (Ar ôl gwylio'r clip cymharwch restr y disgyblion â'r hyn roedd menywod y Tubu wedi ei ddefnyddio.) Gofynnwch i'r disgyblion gofnodi bob tro maen nhw wedi defnyddio dŵr hyd yma yn ystod y dydd, e.e. ymolchi, glanhau dannedd, cael diod, teithio mewn car i'r ysgol, ac ati. Gofynnwch iddyn nhw drafod sut brofiad fyddai byw heb fod â dŵr ar gael yn hawdd. Ar ôl gwylio'r clip gallai'r disgyblion ymchwilio i'r rheswm pam mae camelod yn ymdopi (wedi addasu) cystal â hinsawdd y diffeithdir. Gallai'r disgyblion hefyd baratoi ffeil ffeithiau am Ddiffeithdir Sahara. CYMDEITHASEG: • Beth yw ystyr y term 'diwylliant'? • Beth yw prif nodweddion diwylliant? • Sut gall nodweddion diwylliannol newid yn ôl lle, ardal ac amser? • Nodwch ac eglurwch brif nodweddion diwylliant. • Nodwch ac eglurwch bwysigrwydd diwylliant. • Mae diwylliant yn bwysig wrth ystyried hunaniaeth. Trafodwch.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.