Ö÷²¥´óÐã

Meinir Adre am Sbel

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Ymweliad gartref er mwyn bod gyda theulu.

Dangosir cartref Meinir ym Mhentrefoelas. Mae Meinir adref am gyfnod byr. Dweda hi ei bod hi'n ceisio gwneud bywyd mor rhwydd ag sy'n bosib iddi tra mae hi yno. Ond mae hi'n falch o fod adref ac yn teimlo'n fwy positif. Gwelwn Meinir wrthi'n paratoi bwyd. Mae hi'n sôn am ei meddyginiaeth amgen a'i bod wedi gweithio i gleifion eraill. Mae'n cymryd 32 sgŵp o'r moddion bob dydd. Felly mae Meinir yn rhoi cynnig ar y feddyginiaeth hon hefyd. Dweda Meinir ei bod yn braf iawn cael bod adref. Mae hi'n teimlo lawer yn gryfach nawr. Ar ddiwedd y clip, gwelwn y teulu cyfan, Meinir, ei gŵr, ei phlant a'i mam, yn eistedd wrth y bwrdd adref yn bwyta pryd o fwyd.
O: O Flaen Dy Lygaid - Yr Hosbis
Darlledwyd yn gyntaf : 12 Mehefin 2007

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Gofal yn yr Hosbis, Twf a Datblygiad Dynol, Perthnasau a Theuluoedd

Allweddeiriau : Salwch a Gofal, Canser y fron, Hosbis, Gofal teulu, Egwyddorion gofal, Therapi amgen, Canser yr ymennydd

Nodiadau : Sut yn eich barn chi mae Meinir yn teimlo am gael bod adref gyda'i theulu? • Pa gymorth fydd ar gael i Meinir nawr ei bod hi adref? • Beth yw eich barn chi am therapïau amgen? Ymchwiliwch i'r pwnc a thrafodwch y manteision a'r anfanteision.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.