主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Adolygiad : Drama gerdd Ann : braidd yn siomedig

Ann GriffithsDrama gerdd yn seiliedig ar fywyd Ann Griffiths, yr emynyddes o Ddolwar Fach yw drama gerdd Cwmni Theatr Maldwyn a berfformiwyd ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol, nos Iau.



Sefydlwyd y cwmni theatr n么l ym 1981 ar gyfer Eisteddfod Maldwyn, a'r awduron gwreiddiol, Derec Williams, Penri Roberts a Linda Gittins sydd wedi dod yn 么l at ei gilydd i gynhyrchu'r sioe hon eleni, am ferch sy'n cael ei gosod ymysg beirdd crefyddol mwyaf gwledydd Prydain, am ei hemynau.



Sara Meredydd fel Ann GriffithsGobaith y sioe hon, yn 么l Rhaglen yr Eisteddfod yw "i geisio rhoi goleuni newydd ar y Ferch o Ddolwar fach gan obeithio cynnig gogwydd newydd i'r rhai sy'n gyfarwydd 芒 hanes Ann Griffiths, a chyflwyno'r ferch unigryw hon i bobl ifanc nad ydynt yn gwybod dim amdani."

Rhaid i mi gyfaddef mai i'r ail gategori hwn dw i'n disgyn, a doedd y pwnc ddim go wir yn fy nenu. Ond roedd rhaid mynd i'w gweld gan fod cymaint o enw da i sioeau Theatr Maldwyn ( a minnau wedi gweld - a mwynhau eu sioe Pum Diwrnod o Ryddid sawl gwaith), roedd gen i ddisgwyliadau uchel i'r noson.



Y castMae'r sioe yn agor a chloi gyda Requiem i Ann. Nid stori lawn yr emynyddes sydd yn y ddrama, a nid dyna oedd bwriad yr awduron, ond "ymchwilio i ymennydd Ann ei hun a'r dylanwadau arni."

Sioe yn siomedig
Fe gafwyd hynny, do. Ond eto, cefais fy siomi gyda'r ddrama gerdd.

Does dim dadlau fod y perfformio yn wych. Roedd y canu yn arbennig, a llais Sara Meredydd yn ddelfrydol yn chwarae rhan Ann. Rhaid ei chanmol am ganu yn ddi-stop am awr a hanner hefyd.

Ond roedd yn siom i mi mai cyn lleied o ganeuon roedd y corws yn eu canu ar y llwyfan. Byswn yn bendant wedi mwynhau cael mwy o ganu y cast cyfan, er mor dda oedd yr unigolion, roedd angen chydig mwy o fywyd weithiau yn fy marn i.



Y castO ystyried yr holl heip oedd i'r sioe cyn y noson, roedd pob tocyn fel aur, ac oedd, roedd y pafiliwn yn llawn, ac er bod y gynulleidfa ar y gorau yn ymddangos eu bod nhw wedi mwynhau, doeddwn i ddim wedi fy argyhoeddi yn gadael y Pafiliwn.

Ond rhaid canmol y cerddorion a ganodd eu hofferynnau trwy gydol y sioe heb saib o gwbwl, a'r actorion am berfformiadau arbennig.

Adolygiad : Elin Davies.






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy