主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

HywelMae Hywel Gwynfryn yn cadw dyddiadur Eisteddfod ar gyfer 主播大秀 Cymru'r Byd. Dyma'r ail ddetholiad - dydd Mercher.




Allan neithiwr i Bishop's Castle.
Dim ond wyth milltir o Drefaldwyn, ond cannoedd o filltiroedd o Gymru.
Adeiladau hynafol o oes Elizabeth rownd pob cornel. Dychmygu gweld Liz ei hun yn camu allan o un o'r tai ac yn gofyn, Sut hwyl mae'r Esgob William Morgan yn ei gael ar y cyfieithu, tua Llanrhaeadar ym Mochnant, 'na?

"Canmolwn ef am ei ddygnwch, ei ddewrder, a'i sancteiddrwydd
Ac am ei gymorth i gadw'r genedl a'r iaith lenyddol yn fyw
Gan roddi arni yr urddas ac iddi'r anrhydedd mwyaf
Wrth ei throi yn un o dafodieithoedd Datguddiad Duw."

Dyna ateb Gwenallt yn ei gerdd I'r Esgob sydd wedi ei chynnwys yng Ngherddi Powys.

Emyr Griffith oedd wedi fy ngwadd allan am y noson. Roedd o'n yn arfer gweithio i'r Bwrdd Croeso ond ers deuddeng mlynedd mae o'n byw yn Nhrefaldwyn ac yn rhedeg cwmni teithio a gwyliau, ac yn cyhoeddi cylchgrawn Welsh Rarebit sy'n llawn o wybodaeth am westai da yng Nghymru.

Ac os wyt ti'n darllen y geiriau yma Emyr-拢20, pl卯s, fel y gwnest ti addo am yr hysbys.

Cannoedd o angylion
Mae Angela Jones o Lanerfyl, yn dipyn o Welsh Rarebit, er efallai ddim mor rare a hynny chwaith ar 么l meddwl.

Mae na gannoedd o Angelas o gwmpas y maes, yn rhoi o'u hamser yn rhad ac am ddim i sicrhau llwyddiant yr wyl.

Un o angylion y meysydd parcio - Alison Roberts.Roedd Angela ar ddyletswydd bore ma yn y maes parcio, pan gyrhaeddais y cae am saith. "Glywish i Jonsi yn mynd drwy'i betha yn y siop yn Llanerfyl bore ddoe" oedd ei chyfarchiad. "Mi na i s么n amdanoch chi yn y dyddiadur Angela" medda fi. "Cofiwch neud," medda hi, efo gw锚n lydan ar ei hwyneb.
Diolch Angela.

Ffoli ar denor
Hwyl garw yn y bocs heddiw yng nghwmni'r Tenor Aled Hall. Roedd o'n cadw cwmni i Rhiannon a minna yn ystod yr unawdau operatig.

Mae o'n ddireidus ac yn dynnwr coes heb ei ail. Tae o'n byw yn Lloegr yng nghyfnod Harri'r wythfed, fo heb os fyddai'r Ffwl yn y llys.

Ac fe allai ddysgu'r brenin sut i ganu Greensleeves, mewn tiwn.

Wyddo chi, gyda llaw, beth ydi tarddiad teitl y g芒n? Wel, sdim rhyfedd fod y brenin yn canu "Greensleeves is my delight" oherwydd roedd puteiniaid yng nghyfnod Harri yn gwisgo darn o frethyn gwyrdd a'r eu llewys i ddynodi mai merched y nos oeddan nhw.
A dyna ddiwedd y ddarlith hanesyddol.

Neges i'r merchenogi
Ond fe gafwyd darlith hanesyddol wych heddiw, yn rhan o araith llywydd y dydd Yr Athro Sioned Davies. Fe gyfeiriodd at Freuddwyd Rhonabwy - gan ei bod hi'n awdurdod ar chwedlau'r Mabinogi.

Ac roedd ganddi neges i bob mab a merchinogi oedd yn gwrando - peidiwch a breuddwydio yn yr Eisteddfod am neud petha mawr, ewch adra o'r Steddfod a gwnewch bethau bychain yn eich ardaloedd.

Hambygio
Ond diwrnod Gwich yn Gwichian oedd hi heddiw.

Dyna ffugenw Cefin Roberts a fo enillodd y fedal lenyddiaeth .

CefinArwr y stori ydi mochyn ond welais i ddim y pennawd "Cefin brings home the bacon" hyd yn hyn!

Mae 'na son fod S4C yn mynd i droi'r stori yn ffilm .

Fydd hi ddim yn anodd ffeindio rhywun i chwarae prif ran y mochyn, rhyw Babe Cymreig, wedi'r cwbwl, mae na ddigon o hen Hams yng Nghymru.






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy