主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Hywel GwynfrynMae Hywel Gwynfryn yn cadw dyddiadur Eisteddfod ar gyfer 主播大秀 Cymru'r Byd. Dyma'r ail ddetholiad - dydd Mawrth.

Gadael y cae neithiwr tua hanner awr wedi saith, yn syth ir maes parcio i chwaraer g锚m Eisteddfodol flynyddol Lle neis i barcio fy nghar- gem i yrwyr anghofus, syn credo mai brown ydi lliw eu car llog.

Rhisart- mi - chwaraea-i-fy ngit芒r - drwyr nos-os newch- chi-brynur gin and tonics.

Arwel, oedd yn chwilio am y car bach brown efo mi. Yn anffodus du ydi lliw y car. Wyddwn ni ddim fod na ffashwn eiriau yng ngeirfa Mr.Arwel.

Dreigio
'Da chin cofio imi ganmol y sosej ar grefi nionod yn y Dragon lle 'dwi a chriw o ryw 15 or 主播大秀 yn aros, wel, yn anffodus fedrai ddim canmol y perchennog ir un gradda.

Neithiwr cawsom ein gosod i eistedd wrth fyrddau, heb liain, mewn stafell ddigroeso yn y cefn.

Wir i chi tasa na ddeuddeg ohona ni, mi faswn yn amau ein bod ni yno ar gyfer y Swper Olaf.

Fel maen digwydd- hwnna oedd fy swper olaf i yno. 'Dwi'n amau rwan pam fod y gwesty yn dwyn yr enw Dragon. Ydi o wedi ei enwi ar 么l y perchennog?

Cadeirio tywysoges?
Ir cae, heb frecwast, rhac ofn imi gyfarfod y ddraig ac eistedd yn y lle bwyd yn yfed paned, bwyta r么l wy a chig moch a darllen y Daily Post.

Llun del iawn o Mererid Hopwood, fel tywysoges o dan ei choron. Sgwn i faint o ods gawn i gan y bwci lleol ar y fet ganlynol - Mererid i godi eto ddydd Gwener?

Dwi 'mond wedi rhoi y frawddeg olaf yna yn y dyddiadur rhag ofn y medrai ddeud ddydd Gwener- Na fo! Ddudish i!!

Yn y bocs
Bore didrafferth o ddarlledu. Fyny yn y bocs yn y pafiliwn lle mae Rhiannon a finna yn byw efon gilydd (ond ddim yn cysgu!) am yr wythnos, mae ganddo ni olygfa wych or pafiliwn - dros bennau y rhai sydd yn y rhes gefn (tasa nhw yno, ond dydyn nhw ddim, oherwydd fod y pafiliwn yn rhy fawr ar gyfer y gynulleidfa sydd eisiau gweld y cystadlu).

Ryda nin gweld eangder y llwyfan ar sgriniau bob ochor. Rydan nin darlledu pob un cystadleuaeth or llwyfan ("Pob un wan jac- dyna fasa Nain wedi ei ddeud? Pwy oedd Jac. Atebion cymru@bbc.co.uk ar wah芒n ir dawnsio.

Ond fel cyflwynwyr rydan nin aml iawn yn gallu mwynhau y dawnsio, tran darlledu eitem gerddorol sydd wedi ei recordio yn gynharach.

Y gora or ddau fyd fel petae.

Medalu
Cefais gwmni Harri Pritchard Jones ar gyfer seremoni Medal Daniel Owen. Roedd on un or beirniad ddyfarnodd y Fedal Ryddiaith i Elfyn Pritchard, enillydd y Daniel Owen heddiw.

Roeddem ein dau yn cytuno ei bod hin braf gweld Eirug Wyn, enillydd y fedal y llynedd yn mwynhau y seremoni, ar 么l ei waeledd.

Gobeithio y bydd on teimlon ddigon da i draddodi ar ran ei gyd feirniad fory yn ystod seremonir Fedal.

Uchafbwynt y diwrnod heb os heddiw, oedd clywed Aelwyd CF1 yn canu c芒n or sioe Miss Saigon. Roeddan nhwn wefreiddiol. Os glywai rywbeth gwell nar datganiad yna yr wythnos hon, fe fyddain cyfrif fy hun yn lwcus iawn.






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy