主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Gwobr Daniel Owen i brif lenor

Nofel gan awdur dros ei ddeg a thrigain oed am gymeriad yn ei hanner cant sy'n twyllo ei wraig a fu'n fuddugol yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.



Disgrifiwyd Pan Ddaw'r Dydd gan Elfyn Pritchard - a fu'n fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith ddwy flynedd yn 么l - fel gwaith sy'n dangos "aeddfedrwydd a disgyblaeth arbennig."

Ychwanegwyd: "Rhinwedd arbennig yw'r elfen o goegni a hiwmor iach sydd yn rhedeg trwy'r cyfan er bod yma drafod them芒u dwys mae'r awdur yn gwneud hynny'n gyson 芒'i dafod yn ei foch."

Cyfeirwyd hefyd at broffesiynoldeb Elfyn Pritchard fel awdur.

Dywedodd yr awdur ei hun ei fod ef yn gobeithio fod elfen erotig ac awgrymog yn y nofel ond fod unrhyw gyfeiriadau rhywiol yn chwaethus hefyd.

Er yn enillydd y Fedal Ryddiaith mae y cyn athro o'r Sarnau yn fwy adnabyddus fel awdur nifer o nofelau a straeon ar gyfer plant.

Ond yn dilyn ei wobrwyo ddydd Mawrth dywedodd ei fod bellach yn ei chael yn haws sgrifennu ar gyfer oedolion.

Megis rhyw ail gynnig oedd yr ymdrech a enillodd iddo un o brif wobrau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd mai ei fwriad gwreiddiol oedd sgrifennu am ŵr a gwraig o fewn priodas a oedd yn chwalu yn gorfod dygymod a salwch mawr.

"Ond ar 么l dechrau sgrifennu sylweddolais nad oedd gen i ddigon i sgwennu am rywun yn dygymod a gwaeledd mawr," meddai gan ychwanegu iddo newid y stori yn y nofel i'r un a fu mor llwyddiannus iddo.

Athro Saesneg sy'n twyllo ei wraig yw'r prif gymeriad yn y nofel a'r ymwneud rhyngddo ef, ei wraig a'i gariad yw testun y nofel.

Amddiffynnodd Elfyn Pritchard ei ddefnydd o ddyfyniadau o lenyddiaeth Saesneg yn ei nofel trwy ddweud mai athro Saesneg yw'r prif gymeriad ac y byddai trosi'r dyfyniadau hynny i'r Gymraeg yn gwanhau eu heffaith.

"Mewn cystadleuaeth fel hon rwy'n credu fod gen i'r hawl i wneud hyn," meddai gan ychwanegu y credai ef y dylai'r Cymry ddefnyddio y ddwy lenyddiaeth.

Dywedodd nad oedd ganddo deimladau cryfion ynglŷn 芒 gwneud seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen yn un o seremoniau'r Orsedd gan ddweud ei fod ef yn yn poeni mwy am y ffordd y beirniedir y gystadleuaeth gyda'r feirniadaeth a gyhoeddir yn y cyfansoddiadau yn llawer iawn llai cynhwysfawr na beirniadaeth y Goron a'r Gadair a hynny er y credai ef y byddai mwy o ddarllen ar nofel nag ar y cyfansoddiadau barddonol hynny.





Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy