主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Gwilym Owen: Gwener gweinio'r cledd

Gwilym yn gweinio'r cledd
Cyfraniad olaf Gwilym Owen o Faes yr Eisteddfod ym Meifod. Bu'n cyfrannu'n ddyddiol i 主播大秀 Cymru'r Byd ers dydd Llun




Henffych o Faes Meifod ar fore Gwener.Ac mae hi'n ddiwrnod digon hanesyddol. Y pnawn ma bydd y ddau fudiad iaith, Cymuned a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn dod at ei gilydd i gynnal rali. Digwyddiad i'w groesawu.

Ond pam? Dyna'r cwestiwn. Ai arwydd ydy o gryfder ynteu wendid ar ran y naill neu'r llall?
Dim ond gofyn.

Ymadawiad lliwgar?
A'r bore ma fe gynhelir Cyfarfod Blynyddol Gorsedd y Beirdd tybed fydd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn esbonio pam ei fod wedi penderfynu deud Ta Ta a gadael Bwrdd yr Orsedd.Oedd a wnelo ei benderfyniad, tybed, 芒'r ffaith iddo fethu a chael ei faen i'r wal ar fater lliwiau gwisgoedd rhai a anrhydeddir?
Dim ond gofyn eto.

Seremoni glec
Diolch byth, mae hon wedi bod yn Steddfod sych iawn, iawn - ond wrth gwrs fe gafwyd y gawod fach arferol o ddagrau crocodeil ar lwyfan y Pafiliwn mawr bnawn ddoe pan oedd y Cymry ar ddisberod yn mynd drwy eu pethau yn canu "Unwaith eto yng Nghymru annwyl".

Mewn cyfnod o newid dyma yn sicr un seremoni a ddylai gael clec!

Rheoli o bell
Yn nesaf, llongyfarchiadau gwresog i Gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr wyl ym Maldwyn. Mae'r Parchedig Gwynn ap Gwilym wedi profi ei bod hi'n bosib llywio gwyl lwyddiannus dros ben ac yntau yn byw degau o filltiroedd i ffwrdd ym Morgannwg.

Marciau llawn iddo fo felly in absentia fel petai!

Mater o ddewis
Ond peltan fach rŵan i un o aelodau Comisiwn Richard - y giang ryfedd yna oedd ar faes y Steddfod ddoe i roi dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn y glorian.

Datgan ei syndod oedd o am faint yr ymarferiad blynyddol. Roedd yr holl beth yn sioc iddo fo. Sy'n peri i rywun ofyn pa hawl sy' gan y creadur bach i eistedd ar Gomisiwn mor bwerus. Sut a pham cafodd o ei ddewis tybed?

S卯n Seisnig
Rhestr o enwau i chi rŵan.
Pa gysylltiad sy' rhwng y rhain 芒'n Prifwyl Genedlaethol? Dynamic, Vanta, Acoustique, Kentucky AFC, Paccino, Pheena, Johnny Panic, Zabrinski, Skep, Texas Radio Band, a Jakokayak.

A'r ateb, rhestr ydy hi o fandiau a grwpiau a fu ar lwyfan Pafiliwn yr Ieuenctid yn ystod yr wythnos.

Ond och a gwae. Siawns na ellir cael enwau mwy Cymreig ar artistiaid ein S卯n Roc. Maen nhw wedi mynd dipyn dros ben llestri efo'r enwau cwbl estron.

Archdderyn disgwyledig
Ac mae'n amlwg fod y Sanhendrin yn teimlo fod yr Archdderwydd Robin Llyn wedi mynd dros ben llestri hefyd bnawn Mercher.

Fe roddodd golbiad geiriol i'r rheiny oedd yn gyfrifol fod seremoni'r fedal ryddiaith yn hwyr yn cychwyn a bod hen gojars yr Orsedd wedi bod yn rhostio yn eu gwisgoedd yn rhy hir.

Fe ymddengys fod yr Archdderyn wedi cael pryd o dafod gan y penbandits gweinyddol a gair o gyngor i ffrwyno ei sylwadau yn y dyfodol.

Ai dyma ddiwedd y stori? Cawn weld y pnawn ma yn Seremoni'r Cadeirio, dan nawdd Duw a'i dangnef!

A dyna'r lle gorau falle i derfynu'r cerdyn post ola' o faes Prifwyl Meifod.

Felly gweinier y cledd!






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy