主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Gwilym Owen - iasau Iau

Sylwadau dyddiol Gwilym Owen - y dyn sy'n clywed y cyfrinachau i gyd ar faes yr Eisteddfod. Ac yn eu rhannu wedyn!

Henffych o faes Meifod ar fore Iau.

A hen gojar digon trist ydwi i gychwyn heddiw.

Ddoe ar Radio Cymru fe glywsom ni fod ein papur dyddiol Cymraeg ar y ffordd ac y bydd yn cyflogi dros ddwsin o newyddiadurwyr.

Ond Ned Thomas bach a chriw ymchwilgar Mercato,r o ble mae'r hacs yn mynd i ddod?

Oni chlywsom ni yn narlith Eifion Lloyd Jones i Gylch yr Iaith y cyhoeddiad nad oes yr un copa walltog yn dod i Brifysgol Bangor eleni i astudio Newyddiaduraeth drwy gyfrwng y Gymraeg. A gofynnodd o ble y daw newyddiadurwyr Cymraeg y dyfodol.

Drosodd atoch chi Ned!

Western Wail
A thra'n s么n am hacs. Dydi bois y Western Mail ddim yn cael llawer o hwyl arni yr wythnos yma.

Dyna ichi'r pennawd rhyfeddol yma yn rhifyn ddoe; "Revive the spirit of cooperation in Wales - First Minister tells Maes."

Dwi'n gwybod fod yr hen Rodri yn gwneud petha twp weithiau ond go brin ei fod o wedi dechra patro efo caeau.
Neu falle'i fod o!

Cwrw'r achos
Mae'r un papur wedi bod yn rhygnu am y ffaith fod ein Prif Weinidog hoff wedi torri rheol dim alcohol y Maes wrth goginio rhywbeth blasus ym mhafiliwn Llywodraeth y Cynulliad.

Pa luniaeth sy'n y bagiau?Tasa gohebwyr Caerdydd wedi cyrraedd yma bnawn Sul mi fasa nhw wedi gweld rhai o aelodau sychedig band arbennig yn llowcio caniau dirifedi o gwrw enwog oedd wedi ei gario i'r Maes mewn bagiau.

Arafa don
Mae un o gerddorion enwocaf Cymru wedi bod yn chwythu ffiwsan ar y Maes gan fethu deall pam na fu i'r Sanhedrin eisteddfodol benderfynu anrhydeddu y Dr Joseph Parry yn yr Wyl hon.

Mae hi'n gan mlynedd ers ei farw a'r cyfan sydd yma medda fo ydi un gystadleuaeth bitw Unawd yr Hen Ganiadau nos Sadwrn.

Ac yn waeth byth, medda fo, dim ond un emyn d么n o waith Parry a genir yn y Gymanfa Ganu nos Sul.

Mae'n gywilyddus medda fo.

Maen i wal y Faenol
Ac mi fydd Llys yr Eisteddfod yn cyfarfod y bore ma.
Cyfle i'r aelodau cyffredin ddweud eu dweud efallai am drafferthion ariannol honedig y Brifwyl a'r posibilrwydd, efallai, y bydd rhywun yn codi crachen y penderfyniad i gynnal Prifwyl 2005 y tu 么l i waliau'r Faenol ger Bangor er mawr loes i bobl Pen Llyn.
Steddfod Eryri gaiff hi ei galw ac yn wir mae yna faled ddychanol wedi ei chyfansoddi i Steddfod Fawr Snowdonia. Dyma'r pennill olaf:

Ni fydd yr Wyl fyth mwy yn Llyn
Anghofiwyd gwerin Gwalia.
Daw dydd y crach a'r pennau bach
Yn Steddfod Fawr Snowdonia.
Y mawrion aeth 芒'r maen i'r wal
Ac anwybyddwyd ninnau
Fe floeddir Heddwch uwch ein llwch
Yn Steddfod Fawr Snowdonia.

Gosteged y gwynt
A chwestiwn bach i Robyn Llyn a J芒ms Niclas.
Oni ddaeth hi'n amser dileu'r gwastraff amser blynyddol ar bnawn y Coroni pan estynnir croeso hirwyntog a dibwrpas i gynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd.

Faint mae'r ymarferiad yma yn ei gostio a faint o werth sydd yna mewn anfon yr etholedig rai o blith Gorseddigion Cymru i ymweld 芒 gwyliau ceiniog a dimai yn yr Alban, Iwerddon, Cernyw, Ynys Manaw, Llydaw a chyn bo hir, mae'n siwr, Patagonia.

Fel bysa Ifas y Tryc yn deud Dowch, dowch; cyt ddy comics!
Tan yfory - gweinier y cledd.






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy