主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Gwilym Owen: Briwsion dydd Llun

Gwilym Owen - gwrando ar gyfrinachauSylwadau dyddiol Gwilym Owen - y dyn sy'n clywed y cyfrinachau i gyd. Ac yn eu rhannu wedyn!






Sut Steddfod fydd hon ym mwynder Maldwyn tybed?

A all Sian barablus, cariad yr aelod seneddol lleol, y Bonwr Opik, drefnu'r tywydd fel ei bod hi'n wythnos gyfan yn wyneb haul llygad goleuni fel na fydd yn rhaid iddi hi na Jennie Ogwen wisgo welingtons Gucci melyn efo sodlau tair modfedd fel yn Nhyddewi y llynedd?

Ymryson pleidiol
Ac ysgwn i a ydi'r Sanhedrin Eisteddfodol wedi ystyried y gallai'r Maes yma ym Mathrafal gael ei ddefnyddio fel maes ymryson ar gyfer ymgyrchoedd arweinyddiaeth Plaid Cymru yn ystod y dyddiau nesaf yma.

Dafydd Iwan a'i gyfarfod personol ym Mhabell y Cymdeithasau, Cynog Dafis efo undebau'r athrawon, Rhodri Glyn Thomas yn darlithio ar r么l Plaid Cymru dros y deng mlynedd nesaf a Helen Mary Jones yn deud ei deud ar amrywiol achlysuron.

Ond, mae un dyn bach ar 么l. Does dim s么n am Ieuan Wyn Jones yn unman. Sgwn i ai ei gynllun o ydi trefnu swper cyri cyfrinachol ym mhabell Dolen un noson.

Ac o s么n am hoelion with The Party of Wales, tybed sawl un ohonyn nhw fydd yn bresennol ym Mhabell y Cymdeithasau yn ddiweddarach heddiw pan drafodir y pwnc embaras hwnnw, Senedd i Gymru.

Colofnydd Machen
Ac aros efo politics, tybed faint o ddefnydd o'r iaith Gymraeg a wnaiff y gorseddol wleidydd Ron o Fachen pan fydd o a Dafydd Wigley yn ymddangos ar stondin Cymdeithas yr iaith y bore ma.

Ac yntau, bellach yn golofnydd yn y wasg Gymraeg mae'n siwr na fydd pall ar ei sgwrs yn iaith y nefoedd.
Wel, gobeithio, beth bynnag.

Ac o s么n am y rheol iaith, tybed a fydd comisiwn llugoer yr Arglwydd Richard yn derbyn tystiolaeth mewn Cymraeg yn unig yn y Brifwyl hon?

Anrhydedd i bwy?
A gadewch imi ofyn hefyd pam bod pwysigion y Sanhedrin a'r Orsedd yn glafoerio cymaint am gael y fraint o anrhydeddu'r actor Ioan Gruffudd a threfnu seremoni arbennig ar ei gyfer y bore ma.

Onid braint yr actor yw derbyn gwisg wen yr Orsedd ac oni ddylai fod wedi ymdrechu i dreulio mwy o amser ar faes y Brifwyl yn hytrach na dianc mor ddisymwth?

Problem gymdeithasol?
Ddeuda i ddim mwy dim ond troi at Babell y Cymdeithasau. Pabell, medda nhw, y gellid ei dileu er mwyn arian.

Bobol bach, beth ddigwyddai i'r genedl os na chynhelid cyfarfodydd o Gymdeithas Brodwaith Cymru, Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, Cymdeithas Carnhuanwc ac, wrth gwrs, Cymdeithas Cledwyn.

A phrif siaradwr y gymdeithas honno, eleni, ydi'n Prif Weinidog hoff, Rhodri Morgan.

Sgwn i a fydd o'n ddigon blaengar i ymateb yn enw ei lywodraeth i argyfwng ariannol presennol y jyncet fawr flynyddol ar yr amod, wrth gwrs, fod y Sanhedrin, hefyd, yn mynd ati i dwtio, caboli a chynilo.

Mi fyddai'r diweddar Arglwydd Cledwyn yn dweud Amen dwi'n siwr.

Tan yfory gweinier y cledd!






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy