主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Gwilym Owen - myfyrion Mercher

Sylwadau dyddiol Gwilym Owen - y dyn sy'n clywed y cyfrinachau i gyd ar faes yr Eisteddfod. Ac yn eu rhannu wedyn!




Henffych o faes Prifwyl Meifod ar fore Mercher

Ac mi ddechreua i efo digwyddiad pur hanesyddol na chafodd fawr o sylw gan y wasg a'r cyfryngau sef y ffaith bod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cracio plisgyn mewnblygrwydd degawdau ac wedi cynnal cynhadledd i'r wasg ym mhencadlys yr hacs yng nghefn y Pafiliwn.

Ac yno'n annerch roedd dau o wleidyddion ddoe Ron Davies a Dafydd Wigley.

Dau yn genhadon breuddwyd mawr gwleidyddiaeth consensws.

Breuddwyd, bellch, a drodd yn hunllef wel, i'r ddau ohonyn nhw beth bynnag.

Prydeindeb
Ond mae croeso i bob gwleidydd o bob lliw yma ar Faes Mathrafal a wyddoch chi pwy a welwyd yn ei throedio hi i mewn i'r Babell L锚n yn union wedi darlith ar Owain Glyndwr gan yr Athro Rees Davies - neb llai na Nick Griffin, pen bandit plaid y British National Party.

Gobeithio ei fod o wedi ei fwynhau ei hun yn Lens Tent beth bynnag 芒 glywodd o yno.

Mwy o gyfog?
Ar 么l dwy flynedd o'i sancteiddio wele Mererid Hopwood yn mynd gam ymhellach ac ennill coron y Steddfod hon ac y mae sibrydion y gallai wneud y dwbwl ddydd Gwener a chipio cadair arall.

Duw a'n helpo os digwydd hynny. Bydd y chwdfa ansoddeiriol gyfryngol yn annioddefol.

Lolbio'r dynion
Ac ar yr un trywydd wele y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn Lol o dan olygyddiaeth honedig merch o'r enw Beryl James ac fel basach chi'n disgwyl waldio'r dynion mae'r rhecsyn y tro hwn.

Mae rhestr o'r rheini sy'n cael eu colbio

Lol golygyddesyn cynnwys s锚r fel Bryn Terfel, Rhodri Williams, Robin Llyn, Derec Llwyd Morgan, Huw Ceredig, Vaughan Hughes, Huw Eirug, Dafydd Iwan a Dafydd Elis Thomas.

Ac fe gafodd Arglwydd Nant Conwy, hefyd, ei dynnu'n ddarnau ar y maes yma amser cinio ddoe pan fu cwmni HTV yn rhagddangos rhaglen Saesneg amdano yn y gyfres Tin Gods sydd, a deud y lleiaf, yn rhoi cyfle i bobl ymarfer y ddawn Gymreig arbennig honno o roi'r gyllell yn y cefn.

Hen gynneddf
A phwt bach rwan am gymdeithas Cymry Patagonia. Doeddan nhw ddim yn fodlon gyda'u safle ar y maes. Dim digon o bobl yn galw heibio meddan nhw.

Felly, dros nos dyma nhw'n codi pac a symud i safle newydd.

Doedd dim angen y Mimosa y tro hwn ond mae'r weithred yn profi ei bod hi'n anodd tynnu dyn oddi ar ei dylwyth.
Go dda hogia Patagonia.

Pregethau croes
Ond mi orffenna i efo dau gwestiwn.
Ai gwir y si fod yr offeiriad a chadeirydd Pwyllgor Gwaith y Brifwyl hon wedi peidio a phresennoli ei hun yn y gwasanaeth yn y pafiliwn mawr fore Sul?

Ai gwir hefyd fod swyddogion yr Hen Gapel Llanbrynmair wedi gwrthod cais i beidio cynnal gwasanaeth y bore hwnnw fel pob capel arall ym mro'r Eisteddfod.

A'r canlyniad? Llywydd y Llys yn pregethu ym Meifod a'i frawd yn cenhadu yn Llanbrynmair.
Embaras, hwnna ydi o.

Tan yfory gweinier y cledd.






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy