主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 1

Mae Hywel Gwynfryn yn cadw dyddiadur Eisteddfod ar gyfer 主播大秀 Cymru'r Byd. Dyma'r detholiad cyntaf - dydd Gwener i ddydd Sul.




Gwener:
Aros yn y Dragon yn Nhrefaldwyn neithiwr.(Cofiwch ofyn am y selsig a'r grefi nionod!!) Stafell wely enfawr. Mor fawr yn wir fe benderfynais alw am dacsi i fynd a mi o ddrws y stafell i'r Four postar anferth.

"Stafell rhen Gwynfryn ys neis iawn, heno," ac am weddill yr wythnos.

"Bowys baradwys, pa raid i brydydd,
Uwch gwin dy glydwch, ganu dy glodydd."
Cwpled agoriadol, Gwilym Rhys, yn ei hir a thoddaid sydd wedi ei chynnwys yn y gyfrol Cerddi Powys- ar werth yr wythnos hon, a chyfrol handi iawn i ddarlledwr sydd yn aml iawn yn chwilio am rywbeth gwerth chweil i'w ddweud os oes na oedi ar y llwyfan oherwydd fod C么r Merched Mathrafal, mewn jam traffig yn rhywle.

Dim traffig o gwbwl ar fy ffordd i'r maes .

Darlledu am hanner awr wedi deg efo Nia - hi yng Nghaerdydd a finna yn crwydro o gwmpas i weld pwy welwn i. Mae'r pafiliwn wedi cael gwisg newydd streips melyn a glas tu allan, streips coch gwyn a glas, efo s锚r yn ogystal y tu mewn.
Edrych yn Americanaidd iawn.

Efallai y gwelwn ni y Marshall, Robyn Llyn, yn "lassooio" enillydd y goron a'i dynnu i mewn i'r Corral Gorseddol, ar y llwyfan.

Cofio am rai o gowbois enwog y gorffennol- Calamity Kate Roberts, Whistling Ffowc Elis, Wild Bill Mathias a John Waynefawr.

Dyna ma'r steddfod i angen ydi dyn efo pres- rhyw Johnny Cash, o rywle.
Fydd na un ymhlith y Cymru gwasgaredig fydd ar y llwyfan ddydd Iau?

Sgwrsio ef o Ffion Clwyd o'r NFU oedd yn rhoi buwch bren at ei gilydd ar gyfer cystadleuaeth odro ar y maes yr wythnos nesa.. Mae'n bur debyg mai gwerthwyr yr hambyrgyrs fydd yn ennill. Maen nhw wedi arfer godro'r cyhoedd efo'u prisiau afresymol.

Dynes yn mynd heibio a finna wrthi'n darlledu ac yn gofyn, yn Saesneg "Which is the way out?" Wedi cael digon yn barod.

Cyn diwedd y rhaglen daeth lori i'r cae a'r gyrwyr yn gofyn "Scuse me, mate, where's the Welsh Language"

Un o gwestiynau mawr y ganrif. Tasa fo wedi gofyn i mi lle roedd y babell fwyd .Mi faswn wedi medru deud wrtho fo.

A dwi'n falch o weld fod na fwyd traddodiadol Gymreig ar werth unwaith eto leni- reis, darnau o gyw i芒r, bara nan, a cyri llysiau- 拢4.50.

N么l i'r gwesty a chyfarfod Emyr Griffith, sy'n byw yn Nhrefaldwyn ers deuddeng mlynedd.Roedd y Bass, yn reit flasus- ac yn gynghanedd Sain.

Sadwrn:
Rhaglen bedair awr pnawn ma-cerddoraieth, sgyrsiau, a hanes Steddfodau Maldwyn y gorffennol.

1937: T.Rowland Huws yn ennill y gadair, a honno wedi ei gwneud yn Awstralia - rhodd Cymdeithas Gymraeg, Brisbane.

J.M.Edwards yn cipio'r goron, a honno wedi dwad yr holl ffordd o Shangai meddai ei fab Emyr Edwards.

1965. Y Prifardd Aled Gwyn, yn ennill ar yr adrodd o dan 25 ond yn cofio dim byd am y gystadleuaeth. Ond yn cofio'r Pasiant. Pasiant Patagonia. Un o'r s锚r oedd Ifan Gruffydd, o Baradawys. Roedd o'n cerdded o amgylch y llwyfan mewn un golygfa efo bag tri phwys o geirch o dan ei fraich yn hau y Paith, o'r Gaiman i Esquel.

Roedd na gymaint o geirch ar y llwyfan, roedd y gwladfawyr yn y golygfeydd dilynol, yn ei chael hi'n anodd iawn i beidio a llithro i bob man fel Torville a Dean!

1981: Brawd Aled, John Gwilym Jones, yn cael ei gadeirio. Roedd Meistres y Gwisgoeddyn gymdoges i rieni'r bardd, a chan eu bod nhw yn gofalu am dy meistres y gwisgoedd, tra roedd hi yn yr Eisteddfod, roedd un peth mawr yn ei phoeni pan welodd John yn codi yn y pafiliwn.

Wrth ei wisgo sibrydodd yn ei glust "Ydi Dat a Mam yn gwybod am hyn?" "Ydyn," meddai John, "fe ddois i a nhw i'r cae y bore ma"

Ac meddai meistres y gwisgoedd, "A gofiodd eich tad fynd mas a'r bin o'n ty ni?"

Ac yng ngeiriau'r cyn Archdderwydd, "Wedi ei sicrhau hi fod hynny wedi ei wneud, cyn dod, aed ymlaen a'r seremoni."

Dydd Sul:
Cyn cychwyn y gwasanaeth yn y Pafilwn fe glywsom am farwolaeth Norah Isaac. Ymledodd ochenaid o gydymdeimlad drwy'r gynulleidfa, ar 么l i Lywydd y Llys dorri'r newydd.. Un o'r emynau a ganwyd yn addas iawn i'w choffau hi:

"Ti'r hwn sy'n puro ein dyheu
Bendithia gamp y rhai sy'n creu"

Roedd hi'n gyfrifol am ysbrydoli cenedlaethau o berfformwyr a meithrin eu creadigrwydd.

Diwrnod i'r brenin heddiw. Be na i? Mynd i grwydro. Ella dyliwn i ddilyn esiampl Sion Merfyn, Llanbrynmair. Dyma ei englyn o yng Ngherddi Powys:
O gam i gam, mor gymwys - yw rhodio
Drwy ei hud diamwys
Rhodiaf, mi af wrth fy mhwys,
Mi rodiaf ym mharadwys.





Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy