主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Dyddiadur Maes B - 2

Maes BLowri Johnston sydd ym Maes B ar ran 主播大秀 Cymru'r Byd. Ac mae hi'n cael amser i gadw dyddiadur hefyd. Dyma ei hail gyfraniad.





Ar 么l noson eithaf hwyr nos Lun, dwi or diwedd yn ymadael 芒 ngwely cyfforddus yn y babell a gwneud fy ffordd draw at y maes i babell y 主播大秀.

Anodd yw canolbwyntio ar ddiffyg cwsg ond mae'r coffi yn cadw fi fynd tan ddiwedd y bore. Ar 么l gorffen gyda'r 主播大秀 rydyn ni'n mynd draw i'r babell fwyd am ginio (drud) ac yna ymlwybro n么l i'r babell i gael awr fach o gwsg a mentro i'r cawodydd!

Rhaid dweud fod y cawodydd yn well na'r disgwyl a dwi'n teimlo'n llawer gwell ar 么l cael un!

Brwydr y bandiau
N么l i'r maes wedyn a draw i'r babell roc i weld cystadleuaeth brwydr y bandiau. Yn anffodus dwi wedi colli cwpwl o fandiau (bai y rhaglen nid fi!), ond dwi'n ddigon lwcus i weld Mattoidz, sy'n fand o Orllewin Cymru. Rhain oedd enillwyr brwydr y bandiau Eisteddfod Genedlaethol 2002 yn Nhyddewi, ac maen nhw'n wych heddiw.

Mae Mattoidz yn gwella mwy a mwy bob tro dwi'n gweld nhw. Band sydd werth eu gweld os nad ydych chi wedi gwneud hynny eto.

Golchfa
Yn ystod set Mattoidz mae'n dechre bwrw glaw yn drwm iawn ac rydyn ni'n sylweddoli ein bod ni wedi gadael drws y babell yn agored a rhoi tywelion ar y to i sychu - typical ynte!

Felly n么l i'r babell i achub ein eiddo a dod o hyd i bopeth yn wlyb socan! Ond mae'r haul yn dod allan unwaith eto felly popeth yn iawn.

Mae gan ein ffrindiau ni git芒r felly rydym ni gyd yn cael hwyl 芒 sing-along swynol (!) ac yna mae'n amser mynd draw i'r parti foam. Ar 么l i'r foam ddinistrio fy nillad y llynedd dwi'n penderfynu peidio mentro mewn a gadael i bawb arall fynd ar goll yn y bybyls yn fy lle.

Llawer o Saesneg
Mae maes B yn llawn dop heno a llawer o Saesneg i'w glywed, sy'n drueni. Mae'n debyg bod parti o'r fath yn denu cynulleidfa dra gwahanol i'r arfer i faes B ac mae'r naws yn wahanol iawn heno.

Trueni bod cymaint yn dod i barti foam sy'n rhywbeth Seisnigaidd ond llawer llai yn dod i'r nosweithiau Cymreig. Dydyn nhw ddim yn sylweddoli beth ma' nhw'n golli!

Rydyn ni'n penderfynu mynd n么l i'r babell yn eithaf cynnar a draw at y goelcerth i wneud ychydig o gymdeithasu!

Gan ein bod i gyd wedi blino cymaint rydyn ni'n penderfynu mynd i'r gwely yn eithaf cynnar (wel, cynnar i faes ieuenctid tabeth!) i fod yn ffres ar gyfer diwrnod llawn cerddoriaeth ddydd Mercher - Meic Stevens, Johnny Panic, Elin Fflur a'r Moniars, Gogz, Estella, Mim Twm Llai, Bysedd Melysbeth mwy fydde rhywun eisiau?!






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy