主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Adolygiad: noson olaf Maes B

gan Lowri Johnston
Noson ola' Maes B ac mae'r lle yn llawn dop o bobl yn barod i fwynhau!



Ac mae'r noson yn dechrau'n dda gyda dau fand gymharol newydd, ill dau wedi ennill brwydr y bandiau er mwyn cael chwarae yma heno.

Bechdan Jam sy'n chwarae gyntaf. Maen nhw'n fand o Eifionydd a enillodd frwydr y bandie yr Eisteddfod yn y babell roc yn gynharach yn yr wythnos.

Mae Iwan, sy'n chwarae bas yn y band yn disgrifio eu hymateb fel;
On ni gyd yn chuffed i ennill. Roedd o'n dipyn o sialens gan bod llawer o'r bandiau o'n ni'n erbyn wedi rhyddhau stwff fatha eps yn barod.

Dydyn nhw ddim yn sicr ar beth fyddan nhw'n gwario'r arian eto bydd rhan fwyaf ohono yn mynd mewn i gyfri banc er mwyn gwneud gwaith gyda'r band.

Bechdan Jam oedd enillwyr brwydr y bandie Uned 5 flwyddyn yma hefyd.

Mae nhw'n ymddwyn yn broffesiynol ar y llwyfan a'u caneuon yn catchy a gwreiddiol.

Yr ail fand i chwarae yw Eryr o Ben Llyn. Rhain yw enillwyr brwydr y bandiau C2 gyda sesiwn ar C2 yn wobr a chwarae ym maes B heno.

Ers bod gyda'i gilydd er 1997 mae'r band wedi camu 'mlaen ac mi roedd yn dipyn o gamp i ennill cystadleuaeth C2 yn erbyn llawer o brif fandiau Cymru oedd yn cystadlu.

Oeddan ni gyd yn reit falch o ennill oedd o'n cŵl, meddai Aled (bas a llais).

Y g芒n enillodd y gystadleuaeth iddyn nhw oedd Uniaith Unllais, c芒n wleidyddol bwerus am ddeddfau uno, Lloegr, Cymru, Cymru a Phrydain, gan fand y mae'r rhan fwyaf o'i ganeuon yn gwneud ichi fod eisiau dawnsio!

Mae nhw'n disgrifio eu dylanwadau fel Jarman, Manics, Guns 'n' Roses a'r Beatles ac er mwyn talu teyrnged i Jarman, mae nhw'n chwarae y gan boblogaidd Dal Dy Dir.

Mae Mahirishi yn reit aniddorol heno sy'n dipyn o siom. Er eu bod yn chwarae ffefrynnau megis Ty ar y mynydd, does ganddyn nhw ddim sbarc. Trueni gan fod Mahirishi yn gallu bod yn gret yn fyw.

Pep Le Pew sy'n cloi'r noson ar lwyfan dau, ac mae nhw'n llawn hwyl ac yn cael y gynulleidfa i ddawnsio'n wyllt.

Ac yna i uchafbwynt y noson - i fod Geraint Jarman.

Tipyn yn siomedig yw e heno dyw e ddim yn cael llawer o berthynas gyda'r gynulleidfa. ac mae llawer yn gadael cyn diwedd y set. Yr unig gan wych heno yw Dal Dy Dir' yn fy marn i mae'r lleill i gyd yn eitha' anniddorol.

Uchafbwynt y noson oedd chwarae Hen Wlad Fy Nhadau - ffordd o gael pawb i ganu!

Mae'n drueni nad oedd band fel Anweledig yn chwarae y brif slot nos Sadwrn gan fod yr awyrglych mor unigryw yn eu gigs nhw ond gallwn ni ddim cael popeth!

Er bod Jarman yn siomedig, mae wedi bod yn dda gweld bandiau ifancach Cymru yn cael cyfle i chwarae gigs mawr a chael profiad - heno a dros yr wythnos a gobeithio y bydd modd cadw y momentwn a'r brwdfrydedd i fynd yn ystod y flwyddyn i ddod tan Eisteddfod Casnewydd.






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy